Llinell amser
- Hywel Dda: teyrnasiad 910 - 950
- Gruffydd ap Llywelyn: teyrnasiad 1039 - 1063
- Gruffydd ap Cynan: teyrnasiad c. 1098 - 1137
- Owain Gwynedd: teyrnasiad 1137 - 1170
- Yr Arglwydd Rhys: teyrnasiad 1155 - 1197
- Llywelyn Fawr: teyrnasiad 1200 - 1237
- Llywelyn ap Gruffydd: teyrnasiad 1255 - 1282
- Owain Lawgoch: ganed c. 1330 - m.1378
- Owain Glyn Dwr: teyrnasiad 1400 - c.1410
905
Lladd Rhodri ap Hyfaidd, yr olaf o linach Dyfed
910
m. Cadell, tad Hywel Dda
916
Ymosodiad ar Grannog, Llan-gors
920
Cychwyn teyrnasiad Hywel Dda ar ei ben ei hun
927
Hywel Dda a thywysogion Cymreig eraill yn talu gwrogaeth i Athelstan yn Henffordd
c.930
Cyfansoddi cerdd ‘Armes Prydain’
939
m. Athelstan, brenin y Sacsoniaid
950
m. Hywel Dda
1039
m. Iago ab Idwal, gan alluogi i Gruffudd ap Llywelyn hawlio mai ef oedd brenin Gwynedd
1039
Hel Hywel ab Edwyn o’r de gan Gruffudd ap Llywelyn
1045
Gwrthdaro ffyrnig rhwng Gruffudd ap Llywelyn ac arweinwyr newydd y de, Gruffudd a Rhys, meibion Rhydderch
1055-1062
Gruffudd ap Llywelyn yn sefydlu ei lys yn Rhuddlan
c.1055
g. Gruffudd ap Cynan ym mhentre Swords, swydd Dulyn
1063
Iarll Harold yn arwain byddin i Gymru a llosgi Rhuddlan. Gruffudd yn dianc
1063
Lladdwyd Gruffudd gan ei ddynion ei hun. Anfonwyd ei ben at Harold Godwineson, a’i danfonodd at Edward Gyffeswr
1078
Rhys ap Tewdwr yn hawlio Deheubarth ar farwolaeth ei ail gefnder, Hywel ap Owain
1079
Cychwyn teyrnasiad Rhys ap Tewdwr
1081
Cipio a charcharu Gruffudd ap Cynan
1093
m. Rhys ap Tewdwr
1095
Gruffudd ap Cynan yn priodi Angharad, merch Owain ab Edwyn
1099
Cadwgan ap Bleddyn a Gruffudd ap Cynan yn dychwelyd o Iwerddon
1101
m. Huw Dew, Iarll Caer
c.1115
g. Anarawd ap Gruffudd
c.1132
g. Yr Arglwydd Rhys
1132
Lladdwyd Cadwallon ap Gruffudd ap Cynan yn Nanheudwy gan Cadwgan ap Goronwy ac Einion ab Owan ei gefndryd
1135
Death Steffan yn frenin ar Loegr
1136
Lladdwyd Richard fitz Gilbert de Clare
1137
m. Gruffudd ap Cynan
1149
Adeiladu Castell Tomen y Rhoswydd
1153
Yr Arglwydd Rhys yn ymosod ar Gastell Sanclêr
1158
Yr Arglwydd Rhys yn cipio Ceredigion heblaw Castell Aberteifi. Cychwyn ar adeiladu cyfres o gestyll
1163
Owain Gwynedd yn talu gwrogaeth yn Woodstock
1165
Gorffennaf/Awst: llythyr cyntaf Owain Gwynedd at Louis VII yn dyddio o’r cyfnod hwn.
1167
Yr Arglwydd Rhys ac Owain Gwynedd yn ymosod ar Owain Cyfeiliog
1170
m. Owain Gwynedd
1171
Ysgrifennwyd bywgraffiad Gruffudd ap Cynan
1171
Yr Arglwydd Rhys a’r brenin Harri II yn cyfarfod ym Mhenfro. Rhoddir tiriogaethau i Rhys
1176
Yr Arglwydd Rhys yn cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng nghastell Aberteifi
1176
g. Llywelyn ap Iorweth (Llywelyn Fawr)
1188
Yr Arglwydd Rhys yn croesawu’r Archesgob Baldwin a Gerallt Gymro.
1188
Llywelyn Fawr yn cychwyn ar ymgyrch yn erbyn ei ewythredd
1194
Yr Arglwydd Rhys yn cael ei gipio a’i garcharu gan ei feibion Gruffudd ap Rhys ap Hywel Sais. Rhyddhawyd ef cyn diwedd y flwyddyn
1197
m. Yr Arglwydd Rhys. Claddwyd yn Nhyddewi
1200au
Mae llyfr Cyfraith Hywel Dda yn dyddio o’r cyfnod hwn
1201
Cytundeb rhwng Llywelyn Fawr a’r brenin John
1204
Llywelyn Fawr yn priodi Siwan, merch y brenin John
1210
Llywelyn Fawr yn dinistrio castell Deganwy yn erbyn y Saeson
1216
Llywelyn Fawr a Senedd Gymreig yn Aberdyf
1221
Cychwyn adeiladu Castell y Bere
c.1225
g. Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf)
1237-1240
Llywelyn Fawr yn sefydlu priordy Ffransiscaidd yn Llan-faes
1238
Tywysogion Cymreig yn talu gwrogaeth yn abaty Ystrad Fflur
1240
m. Llywelyn Fawr. Claddwyd yn abaty Aberconwy
1241
Dafydd ap Llywelyn yn ildio Tegeingl i Harri III
1244
m. Gruffudd ap Llywelyn
1246
m. Dafydd ap Llywelyn
1270
Llywelyn yn dinistrio castell Caerffili
1273
Llywelyn yn dechrau adeiladu castell Dolforwyn
1282
Mehefin: g.Gwenllian, merch Llywelyn
1282
m. Llywelyn ap Gruffudd
1283
Cyfansoddi marwnad Gruffudd ab yr Ynad Coch i Llywelyn ein Llyw Olaf
1369
Owain Lawgoch yn hawlio Gwynedd oherwydd ei linach o dras Llywelyn Fawr a chysylltiadau teuluol gyda Llywelyn ein Llyw Olaf.
1372
Ieuan Wyn, proctor Owain Lawgoch, yn cydnabod derbyn 4,000 o ffrancau aur fel tâl i Owain a’i ddynion mewn ymgyrchoedd Ffrengig yn erbyn y Saeson
1378
Lladdwyd Owain Lawgoch gan John Lamb, Albanwr wedi ei gyflogi gan Loegr, yng ngwarchae Mortagne-sur-Mer
1400
Medi 16: Owain Glyn D_r yn cyhoeddi mai ef ydy tywysog Cymru yng Nglyndyfrdw
1403
Brwydr yr Amwythig
1404
Cynhaliwyd Senedd Machynlleth
1406
Anfonwyd Llythyr Pennal
1410
Rhoddwyd pardwn gan y brenin Harri IV i gefnogwyr Owain Glyn Dwr.