Seremonïau
Pwy enillodd y Fedal Gyfansoddi? Medal y Dysgwyr? Y Fedal Ddrama? Y Gadair a'r Goron eleni? Mae'r atebion i gyd yma!
Ysgoloriaeth 2010 CEREDIGION
Daeth Elgan Llyr Thomas, o Graig y Don, Llandudno i'r brig wedi iddo swyno'r chwech beirniaid gyda'i ddehongliad o Y Bugail gan Wilfred Jones, Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a 'Miwsig mwyn y nos' gan Andrew Lloyd Webber. Fel rhan o'r Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan neb llai na'r canwr Rhydian Roberts.
Roedd y cystadleuwyr eraill yn cynnwys y soprano Eirlys Myfanwy Davies o Lanelli; cantores Cerdd Dant Glesni Fflur, enillydd y cystadleuaeth llefaru Elen Gwenllian o Gaernarfon; enillyd yr Unawd Alaw Werin Ceirios Evans o Lanarth; pianydd Jocelyn Freeman; Teleri Mair Williams, enillydd y Cyflwyniad Ddramatig a'r dawnswraig Cerian Phillips o Gaerfyrddin.
Yn enedigol o Landudno, mae Elgan bellach yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion. Yno mae wedi profi llwyddiant gyda'i lais wrth iddo gipio gwobr 'Elsie Thurston' sy’n agored i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ac o ganlyniad bu’n cynrychioli'r coleg yng nghystadleuaeth 'Kathleen Ferrier Bursary Award' ym mis Hydref 2009. Dyma'r tro cyntaf i Elgan gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac wedi iddo raddio, mae a'i fryd ar ddilyn cwrs ôl–radd yn y Guild Hall yn Llundain er mwyn llwyddo fel Tenor proffesiynol.
Meddai Elgan “Ennill yr Ysgoloriaeth hon yw uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma. Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy a dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gydweithio â Rhydian Roberts oedd wedi bod yn fy mentora. Bwriadaf ddefnyddio'r wobr ariannol ar gyfer costau addysg yn y coleg a dilyn cwrs ôl radd. Hoffwn ddiolch i'r Urdd a'r Ysgoloriaeth am y cyfle”.
Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd “Eto eleni, mae cystadleuaeth yr Ysgoloriaeth wedi creu cynnwrf a chyffro heb ei ail a'r cyngerdd yn binacl gwych i'r holl weithgareddau. Bu i'r wyth cystadleuydd roi o'u gorau a llongyfarchiadau gwresog iawn i Elgan. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa yn y dyfodol”.