Wal Berlin
Y cyflwynydd a chynhyrchydd Ifor ap Glyn sy'n adrodd stori'r Wal, o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a ffurfio Gorllewin a Dwyrain yr Almaen yn 1949, hyd at sefyllfa Berlin heddiw, prifddinas yr Almaen unedig unwaith eto. Mae prif bwyslais y rhaglen ar effaith y Wal ar fywydau pobl gyffredin o amser ei chodi ym mis Awst 1961 hyd ei dymchwel yn 1989.
Cofnodi'r digwyddiad
Pan oedd yr ysgrifen ar y wal i'r 'Berliner Mauer', hedfanodd y ffotograffydd Cymreig, Pete Telfer, allan i'r ddinas i ddal ei horiau olaf ar ffilm. Mae'r Wal wedi bod o ddiddordeb mawr i Malcolm Phylip-Jones ers 1961 pan ddarllenodd ei hanes mewn papur newydd ac yntau mewn ysbyty diciau (TB). Mynnodd fod yno yn '89 er mwyn cael ei ddarn bach ei hun o hanes, darn o goncrit y wal.
Meddai Ifor ap Glyn, "Mae'n stori ryfeddol. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n dangos sut wnaeth y Wal adael ôl parhaol ar rai pobl yn yr Almaen a thu hwnt, a sut mae'n dal yn bwysig i fywyd gwleidyddol Ewrop hyd yn oed heddiw, ugain mlynedd ar ôl ei chwymp."
Hanes cymleth
Meddai Ifor, "Gwelwyd cwymp Wal Berlin fel y Gorllewin yn curo'r Dwyrain. Ond ar ôl cwrdd ag Almaenwyr o ddwy ochr y ffin, roeddwn am glywed lleisiau o'r ddwy ochr, ac edrych ar yr hanes o fwy nag un ongl."
Rhwng 1961 a 1989, lladdwyd 87 o bobl wrth iddynt geisio dianc i'r Gorllewin dros Wal Berlin. Mae Ifor yn cwrdd â Jurgen Litfin, brawd y person cyntaf i gael ei ladd felly gan warchodwyr ffin gwladwriaeth Dwyrain yr Almaen.
Mae Ifor hefyd yn cyfweld â Sabine Heinz o Berlin, a ddysgodd Gymraeg ym Mhrifysgol Humboldt. Y Brifysgol fu canolfan astudiaethau Celtaidd yn ninas Berlin ers y 19eg ganrif.
Mae gan Jina Gwyrfai, Cymraes Gymraeg nawr o Waunfawr, Gwynedd, gysylltiadau Almeinig cryf. Roedd ei thad a'i chyn-ŵr yn hanu o'r Dwyrain a byddai Jina'n ymweld â'i pherthnasau yno'n aml yng nghyfnod y Wal.
Bydd Gero Will, a fagwyd ar ochr ddwyreiniol y Wal, a Belinda Albrecht, o'r ochr orllewinol, yn cymharu eu profiadau wrth dyfu i fyny ac yn edrych ar yr hyn sydd wedi dod i'w rhan yn yr Almaen unedig ers 1989.
Agorodd Alexandra Hildebrandt a'i gŵr, y diweddar, Dr Rainer, Amgueddfa Checkpoint Charlie yn 1962 a gwnaeth Thierry Noir, artist sy'n wreiddiol o Ffrainc, ei enw fel un o arlunwyr graffiti y Wal. Byddan nhw'n siarad ag Ifor hefyd.
