Bob Dydd Mawrth ar Planed Plant!
Y flwyddyn ydy 2050 ac mae aelodau Prosiect Wap yn paratoi ar gyfer antur arall. Pwrpas Prosiect Wap ydy dod a hwyl a miri i fewn i fywydau plant Cymru. Sut? Mae ganddynt beiriant pwerus sydd yn medru eu taflu nôl a mlaen trwy amser. Rhan gyntaf y siwrnai yw dod o hyd i blentyn sy'n barod am antur - a gyda lwc, mae'r flwyddyn 2006 llawn plant dewr a mentrus. Pan fydd y cystadleuydd yn barod, mi fydd hi'n amser Wapio nôl a mlaen trwy amser. Bydd 'na gyfle i swnian stegasorus yn Oes y Cerrig, neu guddio rhag draig ffyrnig yn yr Oesoedd Tywyll, mynychu gig y Beatles yn y 60au, neu holi'r Sphinx yn dwll yn yr Aifft. Mae'r dewis yn ddi-ddiwedd. Mae 'na hefyd gyfle i ti gystadlu yn un o gemau cyffrous prosiect Wap, gyda gwobrau mawr i'w hennill. Os oes gen ti ddiddordeb, mi alli di gofrestru drwy glicio ar y ddolen 'cofrestru' ar yr ochr chwith a phwy â wyr, falle y cei di alwad i fod yn rhan o'r prosiect!