


wawffactor 2003
Beth, Aimee a Lisa oedd yn y rownd derfynol yn y gyfres gyntaf llynedd, gyda Lisa'n cipio'r goron. Sut mae bywyd y dair wedi newid felly ers cymryd rhan yn y gyfres?...
Lisa
"Mi wnes i orffen fy ngradd mewn Astudiaethau Theatr ddechrau'r haf, felly dwi wedi dechrau cyfansoddi o ddifri ers hynny. Mi ydw i yn cefnogi Amy Wadge a merch o'r America, Lisa Mills ar eu taith hwy cyn bo hir, fydd yn grêt! Dwi hefyd wedi bod yn eithaf prysur yn perfformio ar raglenni teledu a newydd orffen tâp demo o'm caneuon newydd i'w hanfon allan i wahanol gwmnïau. Mae gen i fand sefydlog tu cefn i mi erbyn hyn hefyd sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr!
Y cyngor fyddwn i yn ei roi i bobl sy'n cymryd rhan yn Waw Ffactor eleni yw i drio eu gorau, ac os yn gwneud yn dda, i wrando yn astud ar gyngor Kim Gavin a Caryl Parry Jones, gan eich bod yn talu'n ddrud am y math hwn o arbenigedd. Mae nhw'n sicr wedi dysgu lot i mi am berfformio a chyflwyno fy hun o flaen cynulleidfa.
Efallai mai'r peth pwysicaf yw i beidio poeni gormod os nad wyt ti yn llwyddo ar y rhaglen!"
Beth
"Mae pethau yn mynd yn dda iawn! Dwi ar fin recordio albwm Cymraeg, ac yna un Saesneg, gyda rhywun na alla i ddatgelu yn sgwennu y caneuon yn arbennig i mi! Dwi hefyd wedi bod yn actio mewn drama newydd o'r enw Con Passonata ac wedi perfformio ar raglen Caryl Parry Jones ar y radio! Hefyd dros yr haf mi wnes i ennill cystadleuaeth gyda Red Dragon.
Dwi'n sicr yn fwy hyderus ers i mi wneud Waw Ffactor ac fe fyddwn i yn dweud wrth unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y rhaglen i beidio cymryd pethau ormod i'r galon ac i drio'i gorau!
Aimee
"Wel, mae 'na lwyth wedi newid yn y mywyd i ers blwyddyn! Dwi wedi newid Prifysgol ac erbyn hyn ym Mhrifysgol Caer - wedi rhyddhau sengl Gymraeg o'r enw 'Rock, Roll & Soul' sy'n cael ei chwarae dipyn ar Radio Cymru, wedi gwneud llawer o gyfweliadau, yn lleol ac yn genedlaethol a newydd gael asiant newydd! Fy uchelgais, yn fwy nag erioed, yw llwyddo fel cantores!
Dwi'n meddwl y dylai ymgeiswyr eleni gofio gwrando ar gyngor y beirniaid, a pheidio cymryd eu hunain ormod o ddifri. Ond efallai mai'r peth pwysicaf oll yw i fwynhau pob eiliad!!"