Croeso i wefan Wawffactor

 
llun francescallun rebecca

y ddwy olaf

Dyma oedd sylwadau'r ddwy ar gyrraedd ffeinal 2005...

llun francesca

Francesca

"Roedd y nerfau 'di cicio i mewn ar ddiwrnod y rownd gynderfynol! Dim ond un ohonon ni oedd am fynd allan, ac roedd e mor agos i'r ffeinal! Ro'n i'n wynebu dipyn o sialens yr wythnos honno gan fod yn rhaid i mi geisio canu a neidio allan o wely ar yr un pryd fel rhan o'r coreograffi!

Dim ond un siawns oedd gen i, felly fe es i amdani ac yn lwcus iawn wnes i ddim syrthio ar fy mhen ôl. Roedd fy nheimladau i dros y lle i gyd.

Ar yr un llaw ro'n i'n teimlo'n ofnadwy wrth weld Emma Hickey yn mynd, ond ar y llaw arall, ro'n i mewn sioc 'mod i wedi cyrraedd y ffeinal. Cyrhaeddais adre'r noson honno gan feddwl "Waw, dwi yn y ffeinal!"

llun rebecca

Rebecca

"Ro'n i'n nerfus iawn yn ystod y rownd gynderfynol, ac er mod i'n caru'r gân Georgia On My Mind hon oedd y gân anoddaf i mi ei pherfformio o ran y canu ei hun.

Dwi'n edrych ymlaen at y cyfle i berfformio gyda band a dawnswyr yn y ffeinal mewn darllediad byw. Dwi'n siŵr y bydd hyn yn codi perfformiadau pawb."