Croeso i wefan Wawffactor

 
Llun Aled Haydn Jones

Holiadur - Aled Haydn Jones

Mae'n debyg dy fod yn fwyaf enwog am fod yn rhan o dîm Chris Moyles yn y bore - beth yw'r peth gorau am weithio ar y sioe?
Cwrdd â phobl enwog yn sicr! Ges i gwrdd â Britney Spears ychydig yn ôl ac mi oedd hi'n neis iawn - mi ddaeth hi i eistedd wrth fy ymyl i sgwrsio am ryw 5 munud cyn y sioe, oedd yn deimlad hollol bizarre gan fy mod i'n gymaint o ffan! Cyn gweithio ar y radio mi ges i hefyd edrych ar ôl Madonna am ddiwrnod pan oedd hi yn gwneud rhaglen y loteri, a'r unig beth allwn i ddweud wrthi trwy'r dydd oedd "This way Madonna"!! Ac mi alla i gadarnhau'r straeon nad ydy Mariah Carey yn berson neis iawn!

Oeddet ti wastad eisiau gweithio ar y radio?
Roeddwn i wastad eisiau gweithio yn y cyfryngau ond ar ôl gadael ysgol mi wnes i gwrs cyfrifiaduron am ddwy flynedd yng Ngholeg Ceredigion, gan fod dad yn teimlo nad oedd gweithio ym myd teledu a radio yn 'job go iawn'. Ond dilyn fy mreuddwyd wnes i yn y diwedd gan fynd i weithio ar raglenni teledu am dipyn cyn symud i radio. Mi ddylwn ychwanegu bod fy nhad erbyn hyn wedi newid ei feddwl ac yn gefnogol iawn i mi!

Fyddet ti wedi cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i Wawffactor pe byddet wedi cael cyfle yn ifanc?
Byddwn, yn sicr! Mi oeddwn i wrth fy modd yn perfformio pan yn blentyn, ac yn arfer cystadlu dipyn yn canu a dawnsio mewn Eisteddfodau. Mi wnes i ennill cystadleuaeth dawnsio disco unigol fwy nag unwaith yn Steddfod yr Urdd!

Wyt ti yn meddwl ei bod yn ffordd dda o'i gwneud hi yn y byd pop?
Yn sicr mae'n ffordd dda ond nid yr unig ffordd. Yr opsiwn arall yw symud i Lundain, a cheisio dod i adnabod y bobl ddylanwadol yno gan greu argraff arnynt. Fyddwn i ddim chwaith yn dweud mai'r ffordd hawsaf yw mynd ar raglenni fel WawFfactor gan fod angen dipyn o hyder i berfformio ar raglen a bod yn barod i gael dy feirniadu o flaen y genedl i gyd!

Beth wyt ti wedi neud i godi cywilydd arna ti dy hun yn ddiweddar?
Dwi'n codi cywilydd arna fi fy hun trwy'r amser!! Yn y bore, weithiau dwi'n dweud rhywbeth twp a 'ma'r criw i gyd yn dechrau ysgwyd eu pennau a dwi'n gwybod mod i wedi dweud y peth anghywir! Fyddai hynny ddim yn ddrwg o flaen 4 o bobl ond mae na dros 7 miliwn yn clywed fy nghamgymeriadau i yn y bore!

Beth sy'n gwneud i ti chwerthin?
Pobol yn disgyn!

Beth yw dy syniad di o hunllef?
Gorfod mynd nôl i'r ysgol!!

« Yn ôl