Y Beirniaid
Cyn gitarydd Catatonia Owen Powell, DJ Radio 1 Bethan Elfyn, Aled Haydn Jones o raglen Radio 1 Chris Moyles, a'r cerddor Huw Chiswell - fydd yn asesu'r talent gorau o Gymru dros cyfres 2006 Wawffactor.
Llais neis ... methu danso
Gallu danso ... phili canu
Edrych fel Shrek ac yn canu fel cnec
Tipyn o jocar ond yn stiff fel pocer
Dyma'r math o bethe' y bydd y beirniaid yn dweud am y cystadleuwyr yn ystod y gyfres.
Nid unrhyw dwmffat felly fydd yn ennill y gystadleuaeth yn ôl cyflwynwraig y gyfres, Eleri Siôn, ond a fydd y beirniaid yn gweld lygad yn llygad â'i gilydd neu fydd yna anghytuno, stranc neu ddau o bosib yn yr ystafell wen lle bydd y beirniaid yn cwrdd i ffiltro'r twmffatiaid o'r gwir dalent?!
Bwth Bloeddio ... cofia fod modd i ti floeddio a dweud dy ddweud os nad wyt ti'n cytuno â sylwadau neu benderfyniadau'r beirniaid drwy ddefnyddio'r Bwth Bloeddio.
Bydd y gwanaf yn diflannu bob wythnos a'r tri cryfaf yn ymddangos yn y ffeinal byw. Tybed pwy fydd yn llwyddo i wawio'r beirniad? Tybed beth sydd yn wawio'r beirniaid? Bydd rhaid i ti wylio'r rhaglen bob nos Wener am 8:25pm i ffeindio allan!