Croeso i wefan Wawffactor

 
llun bethan elfyn

Holiadur - Bethan Elfyn

Mae'n debyg dy fod yn fwyaf enwog am fod yn DJ ar Radio 1 - beth yw'r peth gorau am dy swydd?
Dwi’n mwynhau'r profiad o weithio ar y radio, mewn stiwdio fach dywyll, efo pentwr o recordiau, yn ogystal â’r holl gyngherddau/gwyliau cerddorol, a phethau arbennig sy'n digwydd bob hyn a hyn.

Oeddet ti wastad wedi bod eisiau bod yn DJ Radio?
Roeddwn i â diddordeb mawr mewn newyddiaduraeth gyntaf, ac wnes i sgwennu dipyn i bapurau newydd cyn hyd yn oed ystyried gweithio efo Radio. Ffawd oedd llwybr bywyd wedyn.

Fyddet ti wedi cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i Wawffactor pe byddet ti wedi cael cyfle yn ifanc?
Dwi'n siwr byddwn i wedi hoffi trio – ond fi fydde un o'r rhai sy methu canu, methu downsio, gormod o golur, a dillad erchyll!!!

Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n fordd dda o'i gwneud hi yn y byd pop?
Dwi'n credu ei bod hi'n flas cywir o pa mor gystadleuol ydi'r byd hwn, ac yn brofiad cywir o gorfod perfformio a bod yn naturiol o flaen pobl diethr, camerâu a nifer o bobl yn syllu arnoch. Os ydech chi â gwir dalent i berfformio, bydd y pethau hyn yn sialens ddim yn hunllef. O ran cychwyn gyrfa, mae'n dibynnu pa lefel chi eisiau cyrraedd, mae angen dipyn o benderfyniad i fynd i'r top, ond wnewch chi ddysgu hyn ar y ffordd.

Beth wyt ti wedi'i wneud i godi cywilydd arnat ti dy hun yn ddiweddar?
Dros Dolig roeddwn i'n eirafyrddio yn wael iawn! Ac yn cwympo mwy nag o'n i’n sefyll!

Beth sy'n gwneud i ti chwerthin?
Eira-fyrddio!

Beth yw dy syniad di o hunllef?
Dwi a lot o 'phobias' – tywyllwch, pryfaid, neu ddwr dwfn fel y môr, felly allwch chi roi rhain at ei gilydd os ydech chi eisiau bod yn gas!

Pa fath o bethau fyddi di'n edrych allan amdanynt yn Wawffactor 2005?
Dwi'n edrych am bobl naturiol, sy'n mwynhau perfformio a chael hwyl wrth gystadlu, yn yr un ffordd dwi'n hoffi clywed lleisiau naturiol sydd ddim â gormod o frills!

« Yn ôl