

CD rebecca trehearn
Wedi ennill sioe dalent S4C, WawFfactor yn 2005, lansiodd Rebecca Trehearn ei chryno ddisg cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Canolfan Mileniwm Cymru, 2005.
Bu Rebecca, fu'n rhan o sioe gerdd Alfie yn Llundain, yn recordio’r CD yn stiwdio enwog Abbey Road.
"Roedd ymweld â’r stiwdio yn brofiad gwych ac ro’n i’n falch iawn o gael cyfle i gynhyrchu cryno ddisg fel rhan o’m gwobr," meddai Rebecca. "Mae’n cynnwys dwy gân wreiddiol - Ti’n Gadael a Teimlo Mor Dda a fersiwn o Cân Walter gan Meic Stevens - yn ogystal â fideo."
Bu Rebecca wynebu her arall wrth iddi gamu ar lwyfan Theatr y Watford Palace yn Llundain. Cyn y sioeau, meddai Rebecca
"Dwi’n llawn cyffro am Alfie!" medd Rebecca, sy’n chwarae Annie, un o gariadon y prif gymeriad yn y sioe gerdd, sydd wedi’i seilio ar lyfr Bill Naughton. "Yr actor a’r perfformiwr Darren Day sydd yn y brif ran ac mae’n addo bod yn gynhyrchiad llwyddiannus iawn," ychwanega.
Meddai Rebecca fod ei phrofiadau ar WawFfactor yn gosod seiliau cadarn ar gyfer gyrfa ym myd y sioe gerdd.
"Er fy mod i wedi canu’n gyhoeddus lawer tro cyn cystadlu ar WawFfactor, nes i ddysgu gwersi gwerthfawr gan hyfforddwyr y gyfres Caryl Parry Jones a Kim Gavin. Dwi’n berfformwraig llawer mwy hyderus diolch iddyn nhw a dwi wedi ennill profiad am y tro cyntaf o ganu fel prif leisydd yn hytrach na fel rhan o gorws neu grwp. Ar y dechrau, ro’n i’n teimlo mor exposed yn canu’n solo, ond dwi’n llawer mwy sicr o fy hunan nawr."
CD Rebecca, 'Rebecca Trehearn', ar label S4C, pris £5.99. Mae ar gael mewn siopau Cymraeg ledled y wlad.
« Yn ôl