WAWFFACTOR 2006
Mae'r dyhead i fod yn ganwr o fri yn prysur ddatblygu i fod yn obsesiwn cenedlaethol, a'r hysteria sydd wedi dilyn twf amlygrwydd Shayne Ward yn esiampl o hyn. Rydym yr union yr un fath yma yng Nghymru gyda'n carwriaeth รข pherfformwyr. Daw dychweliad Wawfactor ag esgus gwych i ddathlu perfformio fel cyfrwng a chyd-ganu o'ch ystafell fyw i mewn i'ch brws gwallt, gan freuddwydio o swyno'r dorf yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae cystadleuwyr gobeithiol ar draws Cymru wedi bod yn canu o'u calonnau dros yr wythnosau diwetha' yn brwydro am y cyfle i gael eu dewis i berfformio a chystadlu ar y rhaglen. Dylai'r sawl hynny sydd yn cael eu dewis fod yn barod i wynebu sawl her a phrofiad newydd.
Nid canu un o'u hoff ganeuon o flaen panel o feirniaid fydd unig sialens y cystadleuwyr, ond bydd mwy o bwyslais yn cael ei osod ar elfennau corfforol ac emosiynol bod yn berfformiwr llwyddiannus.
Efallai nad yw'r dasg yn un hawdd ond bydd y canlyniadau heb os yn werth chweil. Ers ennill WawFfactor y llynedd, profodd Rebecca Treharne gryn lwyddiant wrth iddi berfformio ym myd y sioeau cerdd, ac y mae ar drothwy gyrfa addawol iawn fel cantores. Ymuna'r canwr enwog, Huw Chiswell a phanel y beirniad am y tro cyntaf - ochr yn ochr ag Aled Haydn Jones o Radio 1, Bethan Elfyn a cyn aelod o fand Catatonia, Owen Powell.
Mae hi'n addo bod yn daith llawn hwyl ac yn llawn emosiwn - felly cadwch i wylio!