Croeso i wefan Wawffactor

 
llun Huw Chiswell

Holiadur - Huw Chiswell

Beth yw y peth gorau am berfformio'n fyw o flaen cynulleidfa fawr?
Mae hi bob amser yn help os ydy rhywun yn teimlo fod y gynulleidfa’n mwynhau ac os yn bosib mae canu mewn tiwn yn help yn hynny o beth.

Oeddet ti wastad wedi bod eisiau bod yn rhan o fand/canu?
Bob amser wedi teimlo’r ysfa i ysgrifennu caneuon a does dim llawer o bwrpas yn hynny os nad ydyn nhw’n cael eu clywed felly roedd y perfformio’n dilyn yn naturiol.

Fyddet ti wedi cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i Wawffactor pe byddet ti wedi cael cyfle yn ifanc?
Mae’r traddodiad eisteddfodol i raddau yn cynnig y profiad hwn i bob Cymro/ Cymraes sy’n ymddiddori yn y maes hwn yn ogystal a llawer o feysydd eraill. Doeddwn i ddim yn eisteddfodwr selog ond roedd y profiad o ganu ar lwyfan o flaen cynulleidfa fyw sylweddol a chynulleidfa deledu yn ogystal yn sicr yn brofiad gwerthfawr i rywun ifanc. Eto, mae angen rhywfaint o ddewrder os am fentro. Yr ateb felly – byddwn, o bosib.

Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n ffordd dda o'i gwneud hi yn y byd pop?
Os oes dawn gan unigolyn, mae’r cyhoeddusrwydd sydd ar gynnig yn sicr o fod yn rhywbeth cadarnhaol.

Beth wyt ti wedi'i wneud i godi cywilydd arnat ti dy hun yn ddiweddar?
Dim y byddwn yn cyfaddef iddo.

Beth sy'n gwneud i ti chwerthin?
Ein plant, Mari a Manon a’u hiwmor diniwed.

Beth yw dy syniad di o hunllef?
Breuddwyd sy’n ymgorffori ein hofnau mwyaf dwys!

Pa fath o bethau fyddi di'n edrych allan amdanynt yn Wawffactor 2005?
Ansawdd llais unigryw, y gallu i ddehongli a chyfathrebu ystyr cân ac elfen o apêl na ellid ei ddisgrifio mor rhwydd.

« Yn ôl