Croeso i wefan Wawffactor

 
llun Owen Powell

Holiadur - Owen Powell

Mae'n debyg dy fod yn fwyaf enwog am fod yn rhan o'r band Catatonia - beth oedd y peth gorau am fod yn rhan o'r band?
Roedd cyfnod recordio albym "International Velvet" yn amser hapus iawn.

Oeddet ti wastad wedi bod eisiau bod yn rhan o fand?
Oeddwn. Oddi ar gweld y band Thin Lizzy yn fyw yn ddeuddeg oed.

Fyddet ti wedi cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i Wawffactor pe byddet ti wedi cael cyfle yn ifanc?
Dim siawns o gwbwl! O'n i'n flodyn bach lawer rhy sensitif.

Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n fordd dda o'i gwneud hi yn y byd pop?
Ydy. Ond mae llwyddiant neu gyrfa pop yn gallu bod yn un tymor byr yn anffodus.

Beth wyt ti wedi'i wneud i godi cywilydd arnat ti dy hun yn ddiweddar?
Taflu "strop" anferthol yn y stiwdio recordio. Byhafio fel plentyn. Dw i dal yn embarassed!

Beth sy'n gwneud i ti chwerthin?
Fy mab. Mae'n rhaid bod y byd yn le rhyfedd i rywun pedair oed.

Beth yw dy syniad di o hunllef?
Gorfod clywed "Karaoke Queen" gan Catatonia byth eto.

Pa fath o bethau fyddi di'n edrych allan amdanynt yn Wawffactor 2005?
Rhywun sydd â'r llais, delwedd, cymeriad, ymroddiad ac yn bennaf oll "star quality" sydd angen i ennill y gyfres.

« Yn ôl