Einir yn ennill WawFfactor
Einir Mai Dafydd enillodd cystadleuaeth WawFfactor S4C nos Wener, wedi i’r mwyafrif o’r cyhoedd bleidleisio o’i phlaid. Mae’r berfformwraig, 16, o Foncath, Sir Benfro wedi ennill y cyfle i recordio CD a fideo.
Roedd 'na ugain o gystadleuwyr ar ddechrau’r gyfres eleni, ac Einir, Aimme-Ffion Edwards o Gasnewydd a Nathan Whiteley o Wrecsam gyrhaeddodd y ffeinal.
Yn ystod y gystadleuaeth fyw cafwyd cân gan y tri cyn i’r beirniaid Bethan Elfyn, Aled Haydn Jones, Huw Chiswell ac Owen Powell gael ei dweud pwy fydde’r ddau olaf. Dewisodd y beirniaid i gadw Einir ac Aimee-Ffion i fewn gan roi Nathan mewn trydydd lle. Ond gan y cyhoedd yr oedd y gair olaf wrth iddyn nhw bleidleisio drwy alwad ffôn neu neges destun a dewis Einir yn bencampwraig WawFfactor am eleni.
Wrth glywed penderfyniad y cyhoedd, dywedodd Einir, sy’n astudio Cymraeg, Cerdd a Drama ar gyfer ei Lefel AS, “Sain gwbod beth i weud! Mae’n gymaint o sioc, diolch i bawb am bleidleisio amdana i. ‘Oni wir ddim yn meddwl mod i’n mynd i ennill felly ma fe’n syrpreis mawr. Bydd e’n grêt, yn brofiad hollol wahanol a fi methu aros!”
Yn ogystal a chystadleuwyr y noson, daeth Rebecca Trehearn, ennillydd WawFfactor flwyddyn diwethaf, hefyd ar y llwyfan i ddiddanu’r gynulleidfa.Roedd hi wedi cymryd hoe o berfformio yn ‘We Will Rock You’ yn Llundain i ganu yn y ffeinal nos Wener ac i drosglwyddo ei choron WawFfactor i Einir.
Penderfynu ar ddelwedd y ddwy ar gyfer y ffeinal...
Dywedodd Comisiynydd Rhaglenni Adloniant a Digwyddiadau S4C, Meirion Davies, “Llongyfarchiadau i Einir. Roedd safon perfformiad y cystadleuwyr heno yn arbennig ac yn fan cychwyn da i unrhyw yrfa broffesiynol. Rydym yn falch iawn ohonynt ac yn dymuno pob lwc i’r tri yn y dyfodol.”