Y Pâr Ifanc
Anna Roberts, 29, a Lee Openshaw, 28, o Hen Golwyn, ger Bae Colwyn, yw’r cwpwl lwcus sy’n cael casgliad o sêr o’r byd darlledu Cymraeg i drefnu eu priodas ym mis Awst eleni.
Cyfarfu’r cwpl yn nhafarn y Ship ym Mangor lle roedd Lee, sydd nawr yn blismon ym Mangor, yn gweithio ar y pryd fel DJ. Mae’r ddau yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut hwyl gaiff y sêr wrth drefnu eu diwrnod mawr.
“Alla’ i ddim aros. Dwy byth yn disgwyl ennill dim. Fe wnaiff hyn y diwrnod yn arbennig iawn. Mae’r ddau ohonom yn dal mewn sioc ar ôl clywed,” medd Anna sy’n gweithio fel derbynydd i Gyngor Conwy ac hefyd, yn rhan amser, fel cynghorydd prydferthwch.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at glywed pwy fydd yn trefnu pethau eleni ac i weld y sêr yn mynd ati i wneud eu gwaith,” ychwanegodd Anna.
Bu’n adeg anodd i Anna a’i theulu ar ôl colli ei brawd, Rhodri mewn damwain car y llynedd. “Rydym fel teulu wedi cael blwyddyn ofnadwy. Mae’n dda cael rhywbeth positif i edrych ymlaen ato,” medd Anna.
Enwyd mab Anna a Lee ar ôl ei brawd ac mae Luke Rhodri nawr yn saith mis oed a’i frawd mawr, Richard, yn bum mlwydd oed.