Y Sêr
Heledd Cynwal
Nodwedd wahanol yn y gyfres newydd yw mai Heledd Cynwal yw trefnydd y briodas eleni! Mae hynny'n cynnwys pob dim o'r blodau i'r ffotograffydd a'r mis mêl.
Lle yn y byd mae'r lleoliad mwyaf rhamantus i briodi yn ôl Heledd?
“Bues i mewn priodas ym Mhortmeirion ac roedd honno'n hynod o ramantus. Roedd y tywydd yn braf, gaethon ni fwyd ar y lawnt ac roedd golygfeydd anhygoel o'r traeth a'r môr. Paradwys.”
Jonathan Davies
Y cyn-chwaraewr rygbi a chyflwynydd teledu bydd yng ngofal modrwyau priodas y pâr priod – ond yr amod yw ei fod yn gweud 'skydive' gyda'r Red Devils ar y ffordd i'r seremoni briodas!
Oes ofn ar y cyn faswr?
“Sai'n dweud fod ofn arna'i, ond wy'n gwybod bod ishe paratoi a hyfforddi'n iawn. Wy wedi gwneud 'bungee jump' o'r blaen, ond mae hwn bach yn wahanol.”
Glyn Wise
Yr 'housemate' fwyn o Flaenau Ffestiniog sy'n gyfrifol am y colur, wacsio a'r massages! Bydd angen tipyn o hyfforddiant arno ond mae Patricia - ei athrawes – wrth law, sy'n amyneddgar iawn ac sy'n egluro pethau'n hawdd.
Ydy Glyn erioed wedi chwarae rôl allweddol mewn priodas?
“Roeddwn i'n usher ym mhriodas fy chwaer. Ond dim ond gorfod dangos pobl i'w seddi oeddwn i!”
Siân Lloyd
Mae tasg Siân Lloyd yn un gyfrinachol ond corfforol iawn. Mae'r hyfforddiant yn arbenigol ac mae'n drylwyr tu hwnt.
Beth yw'r wisg waetha welodd Siân mewn priodas?
“Rwy'n cofio mynd i briodas lle'r oedd un ferch wedi gwisgo ffrog o ddefnydd cheesecloth ble roeddech chi'n gallu gweld yn syth drwyddi! Mae'n hynod o bwysig edrych yn y drych cyn gadael y tŷ!”
Gobeitho wnaiff Siân rhagweld diwrnod braf i'r cwpwl!
Jonsi
Swydd Capten Jonsi Pugwash bydd sicrhau fod y briodfab a'r gwas priodas yn cyrraedd y briodas mewn da bryd – mewn cwch hwylio! Yr unig broblem yw... ei fod ofn dŵr!
Beth sy'n ei boeni fwyaf am y dasg?
“Rwy'n gobeithio bydd y tywydd yn braf neu fydda i'n chwydu, heb os. Rwy hefyd yn gobeithio y byddai'n deall y llanw yn iawn – mae hynny'n hanfodol. Ond yn bennaf, rwy'n poeni na fydd yr hogia'n cyrraedd mewn pryd!”