Ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd, pan adeiladwyd Penralltddu, roedd cynllunio tai yn dod yn symlach.
Roedd hyn yn adwaith yn erbyn rhai o’r cynlluniau pastiche, dros ben llestri Fictoraidd ble roedd tai yn orlawn gyda manylion pensaernïol sydd ddim wir yn gweddu i’w gilydd cystal â hynny.
Yn y steil newydd, roedd y tai yn aml yn cael eu rendro a’u paentio’n wyn, mewn cyferbyniad â’r briciau coch.
Mae hwn weithiau’n cael ei alw’n arddull y Frenhines Anne, gan fod rhai tai yn gopïau o gyfnod cynnar y Frenhines Anne. Does dim cysylltiad go iawn gyda phensaernïaeth y Frenhines Anne ei hun a fu’n teyrnasu o 1702-1714.
Roedd y term yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gartref newydd yn y steil coch a gwyn oedd yn edrych yn hanesyddol.
Yn achos Penralltddu mae’r briciau coch wedi eu gwneud gan gwmni briciau Aberteifi. Os edrychwch chi o amgylch tref Aberteifi fe welwch chi friciau teip terracotta bendigedig a gafodd eu gwneud ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn aml roedden nhw wedi eu mowldio gyda phatrymau addurnol.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales