Gwesty’r Llew Du yw mwy na thebyg tafarn Goets Fawr hynaf y wlad. Ymestynwyd y dafarn yn 1635 ac fe ddaeth yn gartref i Syr William Pryce, sgweiar lleol.
Fe saif y warws yma ar y cei lle fyddai llongau yn ymadael i’r Unol Daleithiau wedi eu llwytho ag ymfudwyr. Ar furiau’r warws fe welir graffiti cynnar o longau tal - golygfa ddigon cyffredin yn y ddeunawfed ganrif.
Symudwyd y bont, ger y castell, yn y cyfnod canoloesol, ac mae wedi cael ei ail-adeiladu sawl gwaith ers hynny.
Castell Normanaidd o ddechrau’r 12fed ganrif yw castell Aberteifi. Fe’i cipiwyd gan Rhys ap Gruffydd erbyn diwedd y 12fed ganrif ac ef fu’n gyfrifol am ei ail-adeiladu mewn carreg Ond yn fuan wedi hynny roedd yn ôl yn nwylo’r Normaniaid.
O fewn ac yn glwm wrth furiau’r castell mae villa o gyfnod y Rhaglywyddiaeth. Mae’r tŷ dan orchudd sgaffald ar hyn o bryd ond y gobaith yw y caiff ei adnewyddu maes o law.
Mae neuadd y dref a’r farchnad yn wych – diwygiad Gothig cynnar wedi ei ysbrydoli gan Ruskin. Gwelwn waith carreg rhesog sy’n nodweddiadol o’r dref. Adeiladwyd yn 1858 pan oedd y dref yn ffynnu diolch i’r llechen Cilgerran lleol welwch chi ym mhob man.
Defnyddiwyd y llawr cyntaf fel llys ac, yn ôl pob sôn, siambrau’r barnwyr oedd y stafelloedd gyda’r nenfwd cromennog.
Adeilad eco ar ffurf cylch a agorir yn swyddogol ym mis Mehefin 2009.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales