Canolbwynt y dref mae’n debyg yw’r man cynnull o flaen Neuadd y Dref –os am ddathliad cymunedol yma fyddai! Dwi’n cofio yn arbennig pan ennillodd Hywel Davies y Grand National - heidio i Neuadd y Dref y gwnaeth pawb i ddathlu. Mae’r Neuadd yn adeilad urddasol iawn ac yn yr hen ddyddie dyma lle fyddai’r cyngor yn cwrdd. Mae pwysigrwydd yr adeilad yn dod yn ôl nawr gyda’r gwaith adnewyddu sydd yn mynd yn ei flaen.
Adeiladau eraill sy’n sefyll allan i mi yw’r hen ‘Shire Hall’ lle fyddai’r llys yn cael ei gynnal ac hefyd tafarndai’r Goets Fawr – y Black Lion a’r Angel.
Daw’r dref yn fyw ddydd Sadwrn y Barlys lle mae 'na ffair yn digwydd drwy’r dref. Digwyddiad unigryw i Aberteifi ydyw lle mae 'na ddathlu ar ddiwedd tymor yr hau gyda dangos meirch a rhedeg ceffylau. Y traddodiad yw mai ar y dydd Sadwrn cyntaf ar ôl dydd Gwener olaf mis Ebrill y cynhelir yr Ŵyl. Wel dyna chi lond ceg!
Roedd marchnad Aberteifi yn denu pobl o’r dair sir cyfagos. Byddai gŵyr o ogledd sir Benfro, de Ceredigion a rhan helaeth o sir Gâr yn dod at ei gilydd a’u hacenion a’u tafodieithoedd gwahanol yn frith trwy’r dre – gellid clywed “ddoe”, “dwe” a “ddo” o bob cyfeiriad!
Mae traddodiad morwrol y dre wedi cael argraff ar iaith y dref hefyd. Fe arferwn glywed geiriau am arian megis “meg” a “niwc” – geiriau fyddai wedi cael eu defnyddio yn yr un modd yng Nghaernarfon – ffaith sy’n ategu cysylltiad clos y ddwy dref oherwydd eu cyswllt agos â’r môr.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales