Does dim angen cyfiawnhau Aberteifi fel Tref Gymreig…ond rhag ofn i rywun holi, dyma safle gyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ôl yn y ddeuddegfed ganrif.
Fel fy nhref leol i, mae gen i gysylltiad agos gyda’r lle yma – mae’n dref grêt gyda chymuned wych, ond mae gan Aberteifi bensaernïaeth ddiddorol iawn hefyd.
Er bod y dref yn amlwg yn edrych yn Fictoraidd, mae ganddi wreiddiau llawer hŷn. Fel sir Aberteifi, fodd bynnag, does dim llawer o adeiladu sydd wedi goroesi o cyn 1750, dyweder.
Yr hyn sydd gyda ni yw casgliad ffantastig o adeiladau sy’n adlewyrchu anterth Aberteifi fel porthladd tua diwedd y ddeunawfed a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyn dyddiau ffyrdd cyhoeddus da, roedd porthladdoedd fel hyn yn hanfodol – i allforio cynnyrch fferm lleol, penwaig wedi eu halltu, a llechi Cilgerran i Iwerddon a gweddill Ynysoedd Prydain.
Mae Aberteifi’n ymddangos yn lle mor gysglyd heddiw, ond dau gan mlynedd yn ôl roedd hi’n dref ddiwydiannol fawr – ar y pryd roedd y porthladd hwn yn fwy na phorthladd Bryste.Roedd dros fil o ddynion yn gweithio ar y tri chant o longau oedd wedi eu cofrestru yma.
Roedd defnyddio llongau stem yn lle llongau hwylio, dyfodiad y rheilffordd yn 1885 a siltio’r afon i gyd yn ffactorau yn nirywiad Aberteifi fel porthladd morwrol.
Ond roedd diwydiannau eraill yma hefyd – agorwyd y ffowndri haearn cyntaf yma yn 1836 ac roedd cwmni Bric Aberteifi yn llwyddiannus tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Pymtheg mlynedd yn ôl roedd Aberteifi wedi mynd â’i phen iddi, gyda rhyw 25% o’r siopau’n wag. Erbyn hyn mae 'na adfywiad yn y dref. Nawr, gyda ffenestri teip gwreiddiol a ffryntiau’r siopau wedi eu hadnewyddu, a lliwiau llachar, mae wedi dod yn lle dymunol i siopa unwaith eto.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales