Neidio at y cynnwys

S4C


Nant Saeson

[ VIDEO ]

Saif y tŷ hwn ychydig filltiroedd i fyny'r afon ar aber y Teifi yn Gwbert.

Gellid cymeriadu'r ardal hon, ynghyd â rhannau o Sir Gaerfyrddin, fel 'cartre'r byngalo'.

Mae byngalos yn gyfforddus, cyfleus ac yn rhad i'w hadeiladu, ond allwch chi ddim a’u disgrifio nhw fel pinacl llwyddiant pensaernïol Cymru.

Nid felly Nant Saeson, sydd llawer mwy cyffrous. Mae'n dŷ syml, a ddim yn arbennig o ddrud i’w adeiladu, ac mae’n edrych cymaint yn well na’r rhan fwyaf o bensaernïaeth diweddar yn yr ardal.

Yma mae’r olygfa’n dwyn y sylw oddi ar y tŷ – gyda thirlun mor anhygoel o’r aber, yr unig beth sydd angen arnoch chi yw tŷ ar dir uwch fel hyn, a gyda digon o wydr i ddod a’r tirlun gwych i mewn. Ar peth gorau amdano yw’r peth symlaf – mae’r prif ystafelloedd byw wedi eu codi’n uchel er mwyn manteisio ar y golygfeydd. Wedyn mae ceir yn gallu parcio o danodd a chael rhywfaint o gysgod rhag y stormydd a geir yma’n y gaeaf.

A tu mewn fe welwch chi bod y dodrefn wedi eu dewis yn ofalus i beidio â chystadlu gyda’r bensaernïaeth, na’r olygfa. Yr olygfa yw popeth.

Wrth adeiladu tŷ newydd mae na ofyn i feddwl am yr amgylchedd. Mae’r tŷ wedi ei adeiladu o ddefnyddiau cynaliadwy: defnyddir tanwydd cynaliadwy – pelenni pren i wresogi’r tŷ; caiff y dŵr glaw ei gasglu o’r to a’i ddefnyddio yn y toiledau ac mae ffeibr gwastraff papur newydd yn insiwleiddio’r tŷ.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales