Weithiau ‘dyw byw yn y dref ddim yn teimlo’n drefol o gwbl….fel yn y fan hyn yn Penralltddu. Gydag aceri o dir a thawelwch, fyddech chi ddim yn credu bod y tŷ hwn, mewn gwirionedd, reit yng nghanol y dref.
‘Dyw e’ ddim yn dŷ anarferol, ond mae wedi ei gynllunio’n neis. Dyma ‘villa’ bleserus mewn arddull Edwardaidd a adeiladwyd tua 1900.
Mae’n amlwg bod hwn wedi ei adeiladu i fod yn un o’r tai gorau yn y dref, a dwi’n credu ei fod yn llwyddo. Mae ganddo hyd yn oed ei fwthyn garddwr ei hun. A chyn i’r coed dyfu byddai golygfa wych wedi bod i lawr at y Teifi – mae’n siwr mai dyma’r rheswm pam y lleolwyd y tŷ yma’n y lle cyntaf.
Mae prif dalcen y tŷ yn ffansi iawn. Mae’n siŵr gen i bod pethau fel y drysau a’r ffenestri ffansi ar gael mewn catalogau wedi eu gwneud yn barod.
Er iddo gael ei adeiladu ar gyfer cyfreithiwr mae’r rhan fwyaf o hanes y lle hwn yn ymwneud â’i gyfnod fel milfeddygfa’r dref. Dyma ble roedd y milfeddyg yn byw, a ble roedd yn perfformio’i lawdriniaethau. A dweud y gwir mae’n lleoliad hanesyddol – dyma ble y digwyddodd y semenu artiffisial cyntaf yng Nghymru, yn y 1940au. Roedd tad y perchennog presennol yn arloesi yn y broses.
Mae’r syrjeri bellach yn ystafell fwyta, ond mae’r cabinetau gwreiddiol o’r fferyllfa’n yn dal i fod yma.
Y grisiau yw’r peth mwyaf nodweddiadol, ac mae’n edrych yn grêt gyda’r papur wal coch. Mae’r gwaith pren o ansawdd ardderchog, a’r gwydr lliw hefyd.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales