Does dim rhaid i chi ddod yn bell o’r dref, dim ond rhyw filltir, cyn i chi gyrraedd tiroedd yr ystad oedd unwaith yn amgylchynu’r dref hon. Mae dewis rhyfeddol o dda o blastai o gwmpas Aberteifi, ond mae Plas Treforgan yn mynnu sylw.
Mae’r cyfraneddau, y ffenestri a’r to yn dweud wrthym yn syth ei fod yn Sioraidd ac mae’n rhaid ei fod yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dyna pryd oedd y pensaer John Nash yn gweithio’n lleol – roedd wedi symud i Orllewin Cymru o Lundain. Ef oedd yn enwog am adeiladu Palas Buckingham a Phafiliwn Brighton.
Fydden i’n rhoi arian ar y ffaith mai ef gynlluniodd y fan hyn hefyd am ei fod yn rhyfeddol o debyg i Lanerchaeron.
Mae’r ffenestri crymion yn nodwedd poblogaidd o gyfnod y Rhaglywiaeth.
Fel yn Llanerchaeron mae gardd hyfryd yma gyda wal o’i chwmpas – roedd yr uchelwyr eisiau dangos eu ffermydd a gerddi cynhyrchiol fel rhan o’r daith o amgylch y tŷ.
Mae’r grisiau cantilifer yng nghyntedd y tŷ yn gamp peirianyddol ac yn hynod o gain ar yr un pryd.
Mae’r papur wal yn y parlwr yn nodwedd hyfryd ac wedi ei brintio â llaw. Roedd y teulu hwn yn sicr yn dilyn y ffasiynau mwyaf diweddar.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales