Mae gan nifer o dai ar y Stryd Fawr hanes ddiddorol iawn. Ar un adeg roedd 44 Stryd Fawr yn ddau dŷ, wedyn newidiodd i fod yn siop ond erbyn hyn mae'n gartref modern a chyfoes
Wrth edrych ar y teils ar y to gwyddwn bod hwn yn un o’r cartrefi hynny a lwyddodd i osgoi’r ail adeiladu Sioraidd a fu'n boblogaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’n dŷ sy’n llawn o hanes, ond mae’r perchnogion wedi bod yn ofalus wrth gyfuno'r hen a'r modern wrth ei ddodrefnu. Erbyn hyn mae'r tu fewn ar ffurf cynllun agored felly mae'n anodd dychmygu'r cynllun gwreiddiol.
Mae'r ddau le tân yn yr ystafell fyw yn amlygu'r ffaith ei bod wedi bod yn ddwy ystafell ar un adeg. Gellir dadlau bod y llefydd tân sydd o'r oesoedd canol yn rhy syfrdanol i adeilad o'r raddfa yma, yn ôl y sôn fe'u symudwyd yma o'r castell.
Yn y cefn a thrwy'r gegin fodern mae yna hen weithdy bric a oedd yn ffatri hoelion ar un adeg ond sydd wedi ei restru erbyn heddiw. Prin iawn sydd wedi newid yn y gweithdy ers y diwrnod y daeth y gwaith o gynhyrchu hoelion i ben. Trueni mawr i’r gwaith gau gan fod hoelion wedi eu gwneud â llaw yn llawer harddach nag esiamplau wedi eu masgynhyrchu.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales