Wrth groesi’r Wysg i gyfeiriad Cwrt Llangatwg rydym yn yn gadael Crughywel, ond pan adeiladwyd y tŷ roedd Crughywel a Llangatwg yn yr un plwyf.
O’r tu allan mae’n edrych yn dŷ syml – plasty bendigedig a adeiladwyd tua 1700, gyda lwfer coeth ‘William a Mary’ dros y prif ddrws. Wrth dreiddio'n ddyfnach sylweddolwn bod mwy i'r tŷ, mewn gwirionedd rydym yn edrych ar ddau dŷ. Ar y dde mae ffermdy bychan o oes y Tuduriaid, ac ar y chwith mae’r prif floc sy’n dyddio o droad y ddeunawfed ganrif.
Tu fewn, mae 'na barlwr braf gyda phaneli castan yn dyddio o tua 1700. Mae’r lle tân yn dyddio nôl i ganol y ddeunawfed ganrif.
Symudwyd y grisiau gwreiddiol o'r prif gyntedd i'r grisiau cefn cyn eu hail osod gan risiau o’r cyfnod Sioraidd.
Yn y gegin mae bwâu sy'n dyddio yn ol i Oes y Tuduriaid sydd o leiaf canrif yn hyn na'r prif dŷ.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales