Neidio at y cynnwys

S4C


Eich tref chi

Rhagor o adeiladau o ddiddordeb yng Nghrughywel

[ ]

Porth Mawr
Dyma un o’r porthdai caerog gorau yng Nghymru ac, er gwaetha’ rhai newidiadau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’n yn debyg iawn i sut yr oedd pan gafodd ei adeiladu’n wreiddiol tua 1480.
Hwn oedd y porthdy i gartref castellog y teulu Herbert - Cwrt-y-Carw. Mae’r tŷ gwreiddiol wedi diflannu bellach ond mae villa hardd o gyfnod y Rhaglywiaeth(1824) wedi cymryd ei le.

[ ]

Telebentre
Adeiladwyd yn 1995 yn gyfuniad o hen adeiladau allanol ffermdy Upper House Farm ac adeiladau cwbl newydd. Mae’r ffordd mae’r tai wedi eu gosod yn teimlo fel stryd ganoloesol sydd wedi tyfu’n organaidd.
Addaswyd yr adeiladau allanol ar gyfer swyddfeydd gyda’r bwriad o annog pobl i ddod i fyw a gweithio yma trwy gyfrwng y rhyngrwyd. Methodd y syniad gwreiddiol ond erbyn hyn mae’r swyddfeydd yn cael eu defnyddio ar wahân i’r tai, ond fel stad o dai mae'n lecyn hyfryd.

[ ]

Pont Crughywel
Nodwedd amlwg o dref Crughywel yw’r bont hardd sy’n dyddio nôl i’r unfed ganrif ar bymtheg - er iddi gael ei adfer a’i ledaenu sawl gwaith ers hynny. Diddorol yw sylwi bod yna dair ar ddeg bwa i’w weld o un pen y bont a dim ond deuddeg o’r pen arall.

[ ]

Gwesty'r Bear
Tafarn Y Goets Fawr oedd y Bear ar un adeg ac mae'r porth bwaog i'r ceffylau ynghŷd â’r coblau gwreiddiol wedi goroesi. Yn y bar mae amserlen y Goets Fawr sy'n deillio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r dafarn yn dyddio nôl i 1432.

[ ]

Glangrwyney Court
Adeiladwyd Glangrwyney Court ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y cyfnod Sioraidd. Mae'n enghraifft wych o arddull bensaernïol y Paladaidd sydd yn nodweddiadol o’r cyfnod. Mae’r tŷ a’r gerddi ffurfiol wedi eu rhestru Gradd II

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales