Neidio at y cynnwys

S4C


Cyflwyniad i Grughywel gan Greg Stevenson

[ VIDEO ]

Saif Crughywel mewn man godidog rhwng y Mynydd Du a’r Bannau Brycheiniog. Mae naws unigryw yn perthyn i'r dref gyda'r siopau bach annibynnol a'r awyrgylch brysur yn creu cymuned fywiog a chyfeillgar.

Tafliad carreg o’r dref ar ochr y bryn mae Crug Hywel. Yma ymsefydlodd trigolion cyntaf y dref tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl a ble bathwyd enw Saesneg y dref sef Crickhowell.

Yn 1283 pan oedd y neuadd farchnad ganoloesol yn gonolbwynt i'r Stryd Fawr derbyniodd Crughywel ei siartr.

Os edrychwch yn ofalus ar nifer o’r adeiladau gellir gweld bod fframwaith gwreiddiol y tai yn cael eu cuddio gan ffasâd ddiweddarach e.e. ffasâd siop o’r cyfnod Sioraidd yn cuddio tŷ hŷn a adeiladwyd o ffrâm bren.

Mae’r dref yn rhoi’r argraff iddi gael ei datblygu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond mae gwreiddiau nifer o’r adeiladau lawer yn gynharach na hynny.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales