Neidio at y cynnwys

S4C


Tŷ Llangenny

[ VIDEO ]

Crughywel yw un o ardaloedd cyfoethocaf Cymru o ran pensaernïaeth o’r ail ganrif ar bymtheg ac mae Tŷ Llangenny yn enghtraifft wych o hyn. Adeiladwyd y tŷ ar ddechrau'r unfeg ganrif ar bymtheg ond cafodd ei adnewyddu'n ddiweddar ac mae hyn wedi dadorchuddio’r nodweddion gwreiddiol.

Tŷ fferm ydoedd yn wreiddiol, ond erbyn cychwyn yr ail ganrif ar bymtheg cafodd ei addasu fel maenordy llai gan deulu’r Rumseys oedd yn arglwyddiaethu yn yr ardal.

Mae’r tŷ yn llawn o fanylder cynhenid, o'r gwaith cerrig lleol bendigedig i'r ffenestri derw.

Yn y cyntedd mae’r hen nenffyrch wedi eu hail ddefnyddio fel gwarddrysau, mae’n siŵr eu bod wedi dod o’r tŷ gwreiddiol a oedd yn sefyll yma cyn 1600.

Yn y nenfwd o flaen y prif dân mae ol hiciau oedd yn cael eu defnyddio i ddal caets bara. Byddai’r bwyd yn cael ei hongian yma er mwyn ei gadw allan o gyrraedd llygod mawr.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales