Rhagor o adeiladau o ddiddordeb yn Ninbych
Bryn y Parc
Difrodwyd Bryn y Parc yn ddifrifol mewn tân ac mae’r gwaith adnewyddu wedi datgelu tŷ ffram bren rhyfeddol o ddiwedd cyfnod y Tuduriaid. Mae ansawdd y gwaith coed yn y nenfwd yn profi ei fod yn gartref o statws uchel ar un adeg. Mae’r ffenestr groeslathog yn union yr un fath â’r rhai gafodd eu gosod yn Nolbelydr, Trefnant, ger Dinbych, gan y Salesburys yn yr un cyfnod sef chwarter olaf yr unfed ganrif ar bymtheg (cyfnod Elizabeth y Cyntaf). Dim ond rhywun dewr fyddai’n ymgymryd â phrosiect adfer fel hwn!
Fflat yr Ardd Ddirgel
Dyma sypreis mwya’r dref. Soniodd perchennog y fflat bod yno baneli plethwaith a dwb diddorol iawn. I fod yn onest, wnes i ddim rhuthro i ddod i edrych oherwydd dyw plethwaith a dwb, mewn tref fel Dinbych ddim yn beth anghyffredin. Ond mae hon yn ystafell wirioneddol ryfeddol – yma mae neuadd llawr cyntaf gyflawn o’r Oesoedd Canol sy'n dyddio nôl i ddiwedd y bymthegfed ganrif. Mae’r gwaith plastr cynnar wedi goroesi, ond y nenfforch rhyfeddol sy’n ei wneud yn lle arbennig.
Tŷ Thomas Gee
Ar un adeg dyma gartref Thomas Gee, pregethwr gyda’r Anghydffurfiwyr Cymraeg, argraffydd a chyhoeddwr. Symudodd i mewn pan oedd tua ugain oed, yn 1835. Ei wasg ef oedd un o’r rhai mwya' cynhyrchiol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cyhoeddi deunyddiau Angydffurfiol Cymraeg gan fwyaf. Thomas Gee argraffodd Y Faner a hefyd Y Gwyddoniadur Cymreig, gwyddoniadur deg cyfrol sydd wedi cael ei ddisgrifio fel prosiect argraffu Cymraeg mwyaf uchelgeisiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth edrych ar y manylion pensaernïol mae'n amlwg ei fod yn berchen ar un o gartrefi gorau’r dref. Mae e’n dyddio o ganol y ddeunawfed ganrif ond cafodd ei ailwampio gan Gee ganrif yn ddiweddarach. Mae yna risiau Sioraidd hwyr o ansawdd da yma hefyd. Does dim llawer yn anghyffredin yma ond mae'n dŷ tref brics o ansawdd da iawn. Erbyn y 1890au roedd Gee yn argraffu yn Swan Lane ond mae’n bosibl mai cartref y wasg wreiddiol oedd y warws/stordy brics coch hynod o addurnol y tu ôl i’r tŷ.
Caffi’r Fforwm
Saif Caffi’r Fforwm tu ôl i’r bylciau enwog. Mae’n adeilad ffrâm bren a bu'n dafarn am ganrifoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r tu mewn yn weddol di-nod ond mae'r grisiau sy'n dyddio o ail chwarter yr ail ganrif ar bymtheg o'r safon uchaf. Mae'n anhygoel fod cynifer o risiau tebyg i’w canfod yn Ninbych a’r cyffiniau a hynny mewn lleoliadau gwbl gyffredin.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales