Neidio at y cynnwys

S4C


Yr Actores Gaynor Morgan Rees yn hel atgofion am Ddinbych

Un o Gwm Cynon ydwyf ond ar ôl graddio o’r Coleg Drama symudais i weithio yn y BBC ym Mangor yn 1962 ac yn y gogledd dwi 'di bod byth oddi ar hynny. Symudon ni i Ddinbych 25 mlynedd yn ôl. A dweud y gwir roeddwn yn gweithio yng Nghaerdydd ar y pryd pan gefais i’r alwad fod y gŵr wedi rhoi cynnig ar y tŷ heb i mi ei weld! A dyna lle bûm ers hynny, yn hapus tu hwnt gyda’r tŷ a’r gymuned leol.

Mae lleoliad y tŷ yn hardd iawn gyda golygfeydd braf dros Ddyffryn Clwyd ag at y bryniau. Pan oedd yr Eisteddfod yn Ninbych yn 1991 roeddwn i’n medru gweld y Pafiliwn a’r pebyll yn glir o’r tŷ.

[ ] Fel Hwntw rwy’ wedi cael fy nghroesawu i’r gymuned ond yn teimlo’n gryf nad ydych chi ond yn cael allan be' 'dach chi’n rhoi fewn. Ac felly rwy’n ymwneud tipyn gyda nifer o gymdeithasau yn y dre fel y Gymdeithas Gymraeg, Theatr Twm o’r Nant, Cyngor y Dref a dwi'n aelod o Gapel Mawr, Dinbych. O fod yn rhan o’r pethau 'dach chi’n dod i nabod y cymeriadau ac mae’n fraint ac yn hwyl cael eu cwmni. Does dim byd gwell gen i na noson yng nghwmni aelodau o dîm lleol Ymryson y Beirdd – pobl ddiwylliedig ac yn llawn sbort.

O ran y dref ei hun mi fyddai’n frwd iawn dros gefnogi’r siopau lleol. Fydda i ddim ynmynd i’r archfarchnad oni bai mod i wedi peidio cael hyd i’r hyn dwi eisiau ar y stryd fawr. Rwy’n cofio pan symudais i yma gyntaf i ni fynd â ffrindiau o America i siopa ar hyd y stryd fawr a dewis fy nghig, y llysiau a’r bara o wahanol siopau a rhoi’r oll ar y cyfrif i dalu ddiwedd y mis, yna gadael y siop yn waglaw am y byddai'r cyfan yn cael ei ddanfon i’r tŷ yr un prynhawn. Roedd yr ymwelwyr yn methu’n lân â chredu'r gwasanaeth cyfeillgar roeddwn i’n ei gael.

Yr un yw’r ymdeimlad erbyn hyn a dwi wrth fy modd yn parhau i siopa yn y dre. Mae Dinbych yn brwydro fel nifer o drefi eraill i ymwrthod â dyfodiad y siopau mawr ond fe fydd archfarchnad arall yn dod i’r dre maes o law.

Cymaint yw fy moddhad â’r dre fel na fedra i ddeall pam fod pobl yn symud o gymuned ar ôl buddsoddi cymaint ynddi a chael cymaint allan ohoni yr un modd.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales