Saif Dinbych mewn man clud yn Nyffryn Clwyd gyda mynyddoedd Eryri yn amddiffyn ei llethrau gorllewinol a bryniau Clwyd i’r dwyrain. Ystyr yr enw Dinbych yw ‘lle bychan, caerog”. Er gwaetha’r ehangu dros y canrifoedd nid yw hon yn dref fawr hyd yn oed heddiw. Serch hynny mae’r dref farchnad ganol oesol yma wedi ei ffurfio’n berffaith. Mae'n gartref i adeiladau hynod ac, yn fy nhŷb i mae'n un o’r trefi hanesyddol orau yng ngogledd Cymru.
Redd y dref bryd hynny o fewn hen furiau’r castell. Roedd yna farchnad bwysig lle byddai’r Cymry’n dod i farchnata gyda’r Eingl-Normaniaid. Yr unig adeilad sy’n sefyll o’r hen dref yw tŵr Eglwys St Ilar sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg.
Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau llosgwyd y dref ac o ganlyniad i hyn fe’i symudwyd i leoliad y farchnad bresennol, a’i hymestyn yn ddiweddarach mewn patrwm grid i lawr Stryd y Dyffryn.
![[ ]](/ydrefgymreig/img/dinbych_cyflwyniad_marchnad.jpg)
Wedi 1600 datblygodd y dref yn ganolfan ar gyfer crefftau arbennig : menigwyr, gwehyddion, gofaint, cryddion, cyfrwywyr, trinwyr lledr, a barceriaid (cywreirwyr crwyn).
Un nodwedd arbennig o Ddinbych yn y cyfnod yma yw’r arcêd a elwir yn lleol y ‘bylciau’. Mae’r bylciau yn dyddio yn ôl i o leiaf 1610 ac yn ymddangos ar fap John Speed o’r dref. Defnyddiwyd y term gan neb llai na William Shakespeare! Mae’r ffaith bod y rhes o golofnau yma yn ymestyn dros nifer o adeiladau yn dangos hyder yr adeiladwyr ar ddiwedd cyfnod y Tuduriaid. Roeddent yn adeiladu adeiladau trefol o statws yn Ninbych tra roedd trefi eraill o’r cyfnod yn ddatblygiadau organig heb fawr o gynllunio o ran y strydlun.
Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Dinbych wedi datblygu’n brif ganolfan Dyffryn Clwyd ac ar rwydwaith y rheilffyrdd.
Mae hyd yn oed y bensaernïaeth o’r ugeinfed ganrif yn wych. Mae’r Neuadd Farchnad sy’n dyddio o 1916 yn esiampl hyfryd o’r cyfnod Celf a Chrefft. Fe’i dyluniwyd gan Elcock, gyda rhywfaint o ddylanwad Art Nouveau Almaenaidd.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales