Neidio at y cynnwys

S4C


Tros y Parc

[ VIDEO ]

Er bod Tros y Parc yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg, safon yr addurno mewnol o ugeiniau’r ganrif ddiwethaf sy’n hoelio'r sylw.

Adeiladwyd y tŷ yn 1688 ar gyfer Foulk Salusbury, warden eglwys Dinbych yn 1702. Y Salusburys oedd un o deuluoedd Tuduraidd pwysicaf gogledd ddwyrain Cymru ac mae'n enghraifft dda o dŷ bonedd eilradd, reit ar ymyl y dref.

Cafodd ymddangosiad allanol y ty ei ail wampio yn ystod ail chwarter y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yn y 1990au prynwyd y lle gan Ddeon Llanelwy, ac mae’n debyg mai ef oedd yn gyfrifol am ailwneud tu fewn y tŷ.

Diddorol yw sylwi bod yr holl ffitiadau newydd yn arddull aristocrataidd dau ddegau’r ugeinfed ganrif, nid y cynlluniau Art Deco newydd oedd yn dod i mewn o Ffrainc. Mae yma gypyrddau wedi’u ffitio o gyfnod yr adfywiad Sioraidd, drysau a phaneli derw neo-Duduraidd. Y stafelloedd ymolchi yn unig sy’n dilyn yr arddull fodern.

A stafelloedd molchi gwych ydyn nhw hefyd! Mae’n rhaid bod bath seramig fel hwn yn pwyso tunnell! Mae’n grêt i weld ei fod wedi goroesi oherwydd mae cynifer o stafelloedd molchi o’r cyfnod hwn wedi cael eu rhwygo allan yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.

Yn y dyddiau pan fyddai'r ystafell ymolchi wedi ei theilio roedd pobl yn barnu eich statws yn y gymdeithas yn ôl uchder y teils. O weld y teilis yn ymestyn o’r llawr i’r nenfwd heddiw doedd Deon Llanelwy ddim yn brin o geiniog neu ddwy!

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales