Dim ond ugain llath o’r Stryd Fawr mae yna gartref rhyfeddol o’r unfed ganrif ar hugain wedi’i adeiladu gan y pensaer lleol Chris Sanders.
Yr hyn sydd yn eich taro'n syth yw'r lleoliad – reit yng nghanol y dref. Mae tai newydd yn tueddu cael ei adeiladu ar gyrion trefi ond yma mae’r tŷ yn sefyll o fewn tafliad carreg i’r siopau.
Adeiladwyd y tŷ yn 2005. Doedd y dyluniad gwreiddiol ddim yn ceisio gweddu i edrychiad y stryd yn fwriadol, ond gellir dadlau bod y raddfa, y lliwiau a’r ffurfiau yn gwneud i’r ty ymddangos yn gwbl gyfforddus yn ei amgylchedd.
Gan fod y plot mor serth mae'r ffrâm ddur yn hanfodol ac hefyd yn arbed gorfod gosod sylfeini cerrig drud a swmpus.
Er gwaetha' ei edrychiad crand, doedd y tŷ ddim yn ddrud i’w adeiladu – tua £200,000 - ac aeth £36,000 at y gwydr. Roedd y plot yn rhad hefyd gan nad oedd neb arall yn awyddus i ddatblygu'r tir.
Mae’r blwch gwydr yn wynebu’r gogledd – syniad da i beidio gor-boethi yn yr haf. Mae llawer o bobl yn gwneud y camgymeriad o or-wydro eu conserfatori ac wedyn yn darganfod ei fod yn rhy boeth i'w ddefnyddio yn ystod yr haf
Mae hwn yn dŷ ‘gydol oes’ yng ngwir ystyr y gair; gallwch gerdded i mewn i’r dref, gweithio adref, does dim angen car ac mae’n dŷ sy'n hawdd i'w gadw hyd yn oed pan fydd y perchennog yn hŷn. Heb os un o’r tai trefol mwyaf llwyddiannus i ni ei weld erioed.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales