Neidio at y cynnwys

S4C


Caerynwch

[ VIDEO ]

Mae yna gysylltiad agos wedi bod rhwng y Plas yma â hynt a helynt Dolgellau erioed. Mi fuodd yn westy am flynyddoedd ac mae pobl lleol yn ei gofio oherwydd fe gynhaliwyd sawl brecwast priodas yma. Erbyn heddiw mae’n dŷ preifat unwaith eto.

Cafodd Caerynwch ei gomisiynu gan Richard Richards oedd wedi priodi aeres yr Plas Hen gerllaw yn 1785. Fe ddaeth yn Arglwydd Brif Farwn y Trysorlys yn San Steffan erbyn 1817 ac yn brif gynorthwywr i’r Arglwydd Ganghellor Eldon. Roedd ffortiwn Caerynwch yn saff!

Fe’i adeiladwyd rhwng 1801-4, gan Joseph Bromfield o’r Amwythig.Mae hi’n fila o gyfnod y Rhaglywiaeth, wedi’i hadeiladu’n gadarn o garreg leol.

Gosodwyd y ty islaw Plas Hen ar safle gwell o ran tirwedd. Mae hi wedi cael ei rhoi mewn man rhamantus yn wynebu draw at Gadair Idris. Cafodd y tiroedd eu tirlunio mewn modd pictiwrésg ar y Llwybr Cenllif – un o brif atyniadau’r ardal i dwristiaid Sioraidd cyfoethog.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales