Tŷ tref nodweddiadol o Ddolgellau, wedi’i leoli mewn dwy erw o erddi Fictoraidd hardd sydd wedi cael eu harddu ymhellach gan y perchennog presennol.
Ar y cychwyn doedd Craig-y-Ffynnon ond hanner y maint. Cafodd e ei ymestyn yn 1872 gyda dwy adain enfawr gyda thalcenni ag estyll tywydd. Mae e’n gwneud tŷ Fictoraidd dosbarth canol boddhaol iawn.
Mae’n dŷ dosbarth canol o gyfnod Fictoria sydd wedi cael ei gadw’n dda, gyda llawer o nodweddion gwreiddiol fel y clychau i’r gweision a’r morynion ag agorfa o’r ceginau. Ma na waith o ansawdd da ym mhob man.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales