Gerllaw plasdy Dolrhyd saif pafiliwn ardderchog Yr Apollo.
Mae’r gwaith plastr Sioraidd rhyfeddol ar y nenfwd o ansawdd wych.
Gallwch weld gwahanol symbolau sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth a dawns a chelfyddydau eraill, yn ogystal â symbolau clasurol yn dilyn ffasiwn y pensaer Adam.
William Vaughan oedd Prif Lywydd Anrhydeddus Cymdeithas y Cymmrodorion (corff diwylliannol modern cyntaf Cymru). Adeiladodd yr adeilad hwn ar gyfer cyfarfodydd y Cymmrodorion yn 1763 gyda golygfeydd i lawr at Afon Wnion. Mae’r adeilad hwn felly yn bwysig yn hanes diwylliant Cymru.
Un o berlau cudd Dolgellau.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales