Siop Nwyddau T.H Roberts
Mae’r adeilad trawiadol yma wedi cael ei gadw mewn cyflwr hynod o dda – gan gynnwys addurniadau gwreiddiol sy’n dyddio o tua 1886.
Eglwys Santes Fair
Mae’r eglwys yn dyddio o 1716 ac fe gafodd y gangell ei hychwanegu yn 1864. Llechi wedi eu trin yw’r gwaith maen, ac mae gwydr hardd iawn yn addurno’r tu mewn.
Pont A Neuadd Y Sir
Cafodd y bont ei hadeiladu yn 1638. Mae’n cael ei galw yn Bont Fawr er mwyn gwahaniaethu rhyngddi hi a phont llai oedd ychydig i’r de. Cafodd Neuadd y Sir ei hadeiladu yn 1825 gan y pensaer Edward Haycock.
Eglwys Gatholig
Roedd yr Eglwys Gatholig a gwblhawyd yn 1966 yn gwireddu breuddwyd ac ymdrech yr offeiriad lleol, Francis Scalpell, i gael adeilad mwy urddasol na’r hen siop sglodion oedd yn adfeilio.
Sgwar Eldon
Calon y dref heddiw sy’n fan cyfarfod, yn safle i’r farchnad, ac yn lleoliad i ffeiriau, digwyddiadau a gwyliau cymunedol. Mae hefyd yn llawn o adeiladau diddorol.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales