Neidio at y cynnwys

S4C


Dyfrig Siencyn arwethwr lleol a chynghorydd yn hel atgofion am Ddolgellau

Fe’m ganed i yma yn Nolgellau ond mae gwreiddiau fy nheulu yn ddwfn yng Ngheredigion ac roedd fy nhad yn falch iawn o arddel ei fagwraeth yn Bargoed, Sir Fynwy. Er hynny rwy’n ystyried fy hun yn hogyn o’r dre er i mi dreulio rhyw 12 mlynedd yn byw yn Llanfachreth – bro sydd hefyd yn agos iawn at fy nghalon. Erbyn hyn rwyf yn ol yn byw yn y dref ers 30 mlynedd ac wedi magu teulu yma.

Fe’m magwyd mewn ty a gardd anferth gyda choed afalau toreithiog a ffrwythau o bob math ac rwy’n cofio storio’r afalau mewn bocsys pren i’w cadw dros y gaeaf yn y seler; y rheiny nad oedd yn diflannu i bocedi hogia Penuchardre!. Heb fod yn bell oedd yr afon Arran a llwybr ato yn arwain heibio ty hynafol, hen bobty mae’n debyg, a ddymchwelwyd i adeiladu’r eglwys Gatholig. Cofiaf dreulio oriau gyda’m ffrindiau yn chwarae yn yr afon ,er nad oedd y glanaf gan y byddai 2 neu dri tanws yn arllwys dwr gwastraff iddi rhyw ddwywaith yr wythnos! Byddai cerdded i fyny’r Arran yn antur fawr. I fyny’r stryd ‘roedd Y Domen Fawr a Phenuchardre yn fwrlwm o fywyd a phlant yn chwarae ar y stryd. Byddem yn edrych ymlaen yn arw at gael chips Mr Jones ar nos Sadwrn.

[ ] Ar ddydd Sadwrn byddai plant y dre yn heidio i’r Matinee yn y Plaza i weld ffilmiau megis The Three Stooges a Hop Along Cassidy! Byddai cymaint o gadw reiat nes y byddai’r Rheolwr druan yn gorfod atal y ffilm a rhoi pregeth inni fihafio; faint o les wnai hynny dwn i ddim, gan y byddai’r bregeth yn achlysur wythnosol bron.

Un o’r mannau arbennig yw’r llwybr heibio Pen y bryn i fyny at Pen y banc. Mae yno fainc i gael ysbaid wrth ddringo fyny’r rhiw serth. Oddi yno mae golygfa ryfeddol dros y dre gan edrych i fyny dyffryn yr Wnion am Ddolgun a Dolserau. Mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen wedyn i gyfeiriad Esgeiriau a Bryn Mawr. Byddai diwrnodiau o chwarae yn y rhedyn a’r coed ar y ffriddoedd yma gydol yr haf. Mae hwn yn hen hen lwybr a gallwch yn hawdd ddychmygu’r Crynwyr yn cerdded i lawr ym y dref.

Roedd Neuadd Idris yn rhan bwysig o fywyd diwylliannol y dref. Yno fe gynhelid cyngherddau, nosweithiau llawen a dramau. Yn y 50au a’r 60au fodd bynnag daeth yn gyrchfan bwysig i’r Dawnsfeydd Gwerin a gynhelid yno bob yn ail nos Sadwrn. Byddai teithio yno o bellteroedd ac ar ddiwedd y noson byddai’r Sgwar yn llawn o ferched a bechgyn yn llawn hwyl. Lle da i fachu cariad ac ambell i sgiarmas rhwng hogia’r dre a hogia’r wlad! Bu sefydlu’r Wyl Werin a’r Sesiwn Fawr yn ddilyniant i’r traddodiad yma ac mae Ty Siamas bellach yn yr hen Neuadd Idris .

Fe fum i’n ffodus iawn i gael gwaith yn y dre – ‘doedd gen i ddim bwriad gwneud fel arall a dweud y gwir- ‘roeddwn i am gyfrannu at gymdeithas Dolgellau gystal a medrwn i. Fe ddechreuais fel labrwr i gwmni adeiladwyr Arthur Pugh. Dyna addysg oedd cael cydweithio gyda chriw o’r werin hogia lleol. Wedyn fe ymunais a’r arwerthwyr lleol ac yno rydw i byth, yn gwerthu stoc amaethwyr Meirionnydd.

Mae yna sawl peth arbennig iawn am Ddolgellau:

•   Ei phensaerniaeth hynod; adeiladau hynafol o gerrig gwenithfaen anferthol a’r ffenestri to nodweddiadol gyda tho llechi hipped i gyd wedi eu hadeiladu ar strydoedd culion di-gynllun.

•   Y dafodiaith leol: sydd ddim i’w chlywed mor amal y dyddiau hyn. Nid yw’r e (fel yn cieth) mor fain a De’r Sir ac mae defnydd aml o’r diweddeb “..yd”. ee “Sut ti’n cadwyd?”; “Dwi di banafyd”; “Wnes i ofnyd iddi fo”. Mae yna hanes y Romani yma hefyd a dyna pam y gelwir hogia’r dref yn “chafi”- gair Romani am fachgen. Mae eu disgynyddion yn dal i arfer ambell air.

•   Ei lleoliad wrth droed Cader Idris a nepell o Aber y Fawddach; mae’n anodd darganfod harddach ardal na hon rhwng y mor a’r mynydd.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales