Neidio at y cynnwys

S4C


Cyflwyniad i Ddolgellau gan Greg Stevenson

[ VIDEO ]
Does dim llawer o drefi sydd mewn lleoliad mor fendigedig â thref olygus Dolgellau. Yn swatio yng nghysgod Cadair Idris, mae’r dref mor hardd a’r olygfa o’i chwmpas.

Mae’r bensaernïaeth yn feiddgar a chryf - maint yr adeiladau, yn hytrach nag unrhyw addurn, sy’n creu’r argraff fwyaf.

Mae yna adeiladau ‘gwrywaidd’ yr olwg o ddiwedd y cyfnod Sioraidd i’w gweld yn Nolgellau. Mae’n nhw wedi’u hadeiladu o flociau mawr o’r garreg leol (Dolerit) sydd yn rhoi unffurfiaeth i’r dre.

Yr hyn dw i’n ei hoffi fwyaf am y dref yw bod cynllun y strydoedd mor flêr. Dechreuodd Dolgellau fel casgliad o gartrefi taeogion ac mae’r dref wedi datblygu mewn ffordd organig dros nifer o ganrifoedd heb unrhyw fath o gynllun arbennig.

Er yn dref sirol ac yn brif farchnad Meirionnydd, y rheswm am ffyniant y dref oedd y diwydiant gwlân, gan mai hi oedd canolfan ranbarthol y diwydiant hwnnw.

Cyrhaeddodd y diwydiant gwlân ei uchafbwynt tua’r flwyddyn 1800 ac fe ddirywiodd yn raddol yn y ganrif nesaf oherwydd nad oedd posib cystadlu ag allgynnyrch y melinau mecanyddol.

Cafodd llawer o’r dref ei ailadeiladu ym mlynyddoedd cymharol lewyrchus y diwydiant gwlân, a dyw canol y dref, o leia’, heb newid fawr ddim yn ystod y can mlynedd diwethaf.

Mae mwy na dau gant o adeiladau wedi’u rhestru am eu bod nhw o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol- un o’r niferoedd uchaf yng Nghymru ag ystyried mor fach yw canol y dref.

Y Sgwar yw calon y dref heddiw - yn le cyfarfod; yn gartref i farchnadoedd; siopau; ffeiriau; digwyddiadau cymunedol ac amrywiol wyliau.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales