"Mae canfod mwy am drefi Cymru a'i hadeiladau yn tynnu dŵr o'n nannedd” Greg Stevenson.
Drwy'r gyfres a'r wefan hon mae’r cyflwynydd Aled Samuel, yr hanesydd pensaernïol Dr Greg Stevenson, a’i ffrind pedair coes ffyddlon, Minti’r ci dalmataidd, yn bwrw golwg ar hanes pensaernïol nifer o drefi diddorol yng Nghymru.
"Bydd yn daith trwy hanes ein trefi a’u hardaloedd cyfagos trwy gyfrwng yr adeiladau sydd wedi goroesi’r blynyddoedd. Rydym yn gobeithio darganfod nodweddion unigryw ym mhob tref unigol wrth i ni astudio adeiladau o’r canoloesol i’r cyfoes.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales