47 Stryd Fawr
Esiampl hyfryd o dŷ cyfnod Elisabeth y cyntaf. Y nodwedd orau yw’r Dyn Gwyrdd sydd wedi ei gerfio ar y corbel - symbol paganaidd oedd yn symbol o aileni yn wreiddiol.
Siop y Gornel
Mae’r llawr cyntaf yn bargodi, sy’n dangos fod gwreiddiau’r adeilad yn y cyfnod Tuduraidd. Roedd hyn symbol pensaernïol o statws ac yn ffordd ymarferol o gysgodi rhag y tywydd.
Ystafelloedd Ymgynnull
Cafodd y ‘stafelloedd hyn eu hadeiladu yn yr arddull Gothig Eidalaidd yn 1869. Mae’r gwaith brics yn hyfryd ac mae’r tŵr Campanile yn rhoi’r arddull Eidalaidd iddo. Y cynllunydd oedd Thomas Nicholson o Henffordd.
Y Swyddfa Bost
Mae’n sefyll ar hen safle neuadd y dref ac yn nodweddiadol o adeiladau trefol ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Adeiladau Maesyfed
Enghraifft hyfryd o gynllunio trefol y Mudiad Esthetaidd. Cafodd ei adeiladu tua 1900. Yr hyn sy’n ei wneud yn anghyffredin yw’r paneli plastr sy’n cael eu galw’n fargetio (pargetting).
Eglwys Sant Andreas
Yr Eglwys blwyf fwyaf - a’r tŵr yw’r adeilad talaf - yn y sir.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales