Neidio at y cynnwys

S4C


Richard Suggett o Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn hel atgofion am Lanandras

Swydd a Disgrifiad:

Ymchwiliwr, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, gyda chyfrifoldeb am waith cofnodi adeiladau mewn argyfwng.

O ble daeth eich cariad at hen adeiladau a phensaerniaeth? O dyfu fyny ym Mhenarth – sydd yn llawn o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys dociau Penarth – lle roeddwn i’n arfer chwarae.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd? Yr anrhydedd o gofnodi adeiladau hanesyddol pwysig Cymru sydd dan fygythiad.

Rydych wedi ysgrifennu llyfr am dai yn Sir Faesyfed – beth sydd mor arbennig yn bensaerniol am y sir hon? Mae Sir Faesyfed yn arbennig oherwydd fod na draddodiad o ‘wneud y tro a thrwsio’ yno, sydd wedi arwain at gadwraeth yn hytrach nag ail adeiladu y ffermdai canoloesol sydd yno.

[ ] Oes na steil o dŷ sy’n nodweddiadol o Sir Faesyfed?

Yn aml mae tai Sir Faesyfed yn cyfuno traddodiad adeiladau cerrig hŷn gyda thraddodiad ffram derw cynharach.

Beth am Llanandras ei hun? Mae Llanandras yn dref addysgiadol oherwydd fod ganddi amrywiaeth o dai trefol yn dyddio o 1430 ymlaen. Cafodd hanner y dref ei hail adeiladu ar ôl tân mawr yn 1681. O’r herwydd dim ond tu hwnt i ffin y tan mae posib gweld tai canoloesol .

Oes gennych unrhyw atgofion penodol am Lanandras, neu storiau tra’n gwneud y gwaith ymchwil ar gyfer y llyfr? Oes, ffeindio llythyr o oes Elizabeth mewn twll yn y wal yn nhafarn ‘The Duke’s Arms’ lle roedd wedi ei roi i’w gadw’n saff dros 400 mlynedd ynghynt. Wnes i hefyd ddarganfod murluniau yn y bar, sy’n well o gael eu hastudio gyda chymorth peint o gwrw!

Oes gennych hoff dy yn Llanandras a pham? Mae ‘Whitehall’ yn dŷ canoloesol sydd bron yn berffaith, gyda neuadd ac asgell groes yn wynebu Stryd Hereford – dyma un lwyddodd osgoi y tan yn 1681. Roedd ymchwilio’r tô canoloesol sydd wedi eu bardduo gan y mwg yn brofiad cofiadwy. Rydym yn gallu dangos drwy dechneg dyddio cylchoedd coed fod y tô wedi ei adeiladu o bren wedi ei dorri yng ngwanwyn 1462 hyd haf 1463, dyddiad penodol iawn.