Mae tref hynafol Llanandras, (Presteigne), yn sefyll reit ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.….os cymrwch chi ddau gam ar draws Afon Llugwy byddwch chi yn Lloegr. Ond dw i’n falch o ddweud mai yma ar ochr Cymru i’r ffin y gwelwch chi bob un o’r adeiladau gorau!
Lle bach cysglyd yw e heddiw a bydd y rhan fwyaf o bobl yn gyrru heibio oherwydd y ffordd osgoi, ond hon, ar un adeg oedd tref sirol Sir Faesyfed.
Mae lleoliad y dref yn ddiddorol – er yng Nghymru, rydyn ni ar ochr ddwyreiniol Clawdd Offa, a hynny oherwydd fod y Mersiaid wedi cipio’r dref oddi ar y Cymry. Mae’r dref wedi newid dwylo rhwng y Saeson a’r Cymry lawer tro... ond erbyn cyfnod y Tuduriaid roedd pethe wedi setlo lawr.
Mae yna bensaerniaeth Duduraidd ardderchog i’w gweld yma heddiw – mwy nag yn unrhyw dref arall yng Nghymru. Mewn canrifoedd diweddarach fe ddatblygodd y dref gan ei bod hi ar brif lwybr y Goets Fawr o Lundain i Aberystwyth drwy Gaerloyw.
Yr hyn dw i’n ei hoffi am Lanandras yw ei chybolfa o strydoedd canoloesol sydd wedi cael ei disodli gan dreflun Sioraidd diweddarach i ryw raddau. Mewn nifer o ffyrdd mae hon yn dref berffaith ar gyfer disgrifio datblygiad tref Gymreig.
Ac mae hi’n nefoedd i mi – heb r’un ffenest blastig yn unman yn y dref!
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales