Neidio at y cynnwys

S4C


Llety’r Barnwr

[ VIDEO ]

Mae’r Amgueddfa hon yn gwneud trip i Lanandras yn werth chweil.

Pan gafodd tref sirol Sir Maesyfed ei chreu gan Ddeddfau Uno 1536 ac 1542, roedd rôl y dref sirol i gael ei rhannu rhwng Maesyfed a Rhaeadr Gwy. Roedd y llys sirol neu’r ‘Sesiwn Fawr’ i gael eu cynnal yn y naill dref a’r llall.

Ond pan gafodd barnwr ei lofruddio yn Rhaeadr Gwy ar ei eisteddiad cyntaf yn 1542, penderfynodd y Senedd bod Llanandras yn fwy diogel… ymhell o ‘orllewin gwyllt’ y sir.

Wedi iddi gael ei phenodi’n ganolfan gyfreithiol y sir datblygodd Llanandras yn dref sirol sir Faesyfed. Fe gollodd hi’r teitl yna yn 1884 pan gipiwyd y teitl gan Landrindod, ond mae’r hen lys a llety’r barnwyr yma o hyd ac wedi’u cadw fel amgueddfa.

Felly fan yma mae gyda ni Neuadd y Sir a agorwyd yn 1829 ar safle hen garchar y sir. Wedi’i chynllunio gan Edward Haycock, pensaer enwog yn ei gyfnod. Fe oedd Syrfewr Sir Amwythig, ond fe wnaeth e eitha tipyn o adeiladau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r adeiladau wedi cael eu hadfer i’r hyn fydden nhw yn y mil wyth chwe degau – felly Uchel Fictorianaidd… ac mae’r gwaith adfer wedi bod yn wych.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales