Neidio at y cynnwys

S4C


Upper House, Discoed

[ VIDEO ]

Yn Llanandras y tŷ canol-oesol mwyaf cyffredin oedd y neuadd a’r asgell groes, a dyna’n union sydd i’w gael yn Upper House.

Yr hyn sydd wedi digwydd yma yw bod yr adeilad wedi dechrau fel neuadd. Cafodd ei ymestyn gydag asgell-groes ffansi yn 1536. Ers hynny mae’r neuadd agored gynt wedi cael ei hail-adeiladu’n llwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg fel tŷ deulawr.

Cafodd ei adeiladu yn gartref i fasnachwr gwlân cyfoethog o Lwydlo. Mae’n debyg bod y talcen trawiadol wedi ei leoli i wynebu’r Eglwys er mwyn i bawb gael gweld pa mor gyfoethog a ffasiynol oedd y teulu pob tro bydden nhw’n dod i addoli.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales