Mae na ddau enw sy’n cael eu ddyfynnu yn y rhaglen hon – penseiri a gafodd effaith ar adeiladau a thirlun Llandeilo.
Fe fu Syr George Gilbert Scott yn gyfrifol am adnewyddu Eglwys Sant Teilo, Llandeilo. Ond pwy oedd y gwr amryddawn yma?
Ganwyd Scott yn Swydd Buckinghamshire yn fab i’r mans ac roedd yr Eglwys yn mynd i barhau yn bwysig iddo ar hyd ei yrfa fel pensaer.
Fe fwrodd Scott ei brentisiaeth ar garchardai a thlotai - yn wir fe adeiladodd ddeugain o dlotai mewn cyfnod byr o ddeng mlynedd. Fe aeth ymlaen i astudio Eglwysi Cadeiriol Gothig Ffrainc a chael ei ddylanwadu’n fawr gan waith Augustus Pugin oedd yn arwain y blaen ar adeiladu yn yr arddull gothig. Fe ddaeth Scott yn enwog am gynllunio, adeiladu ac adnewyddu eglwysi, eglwysi cadeiriol a thlotai ond efallai ei adeilad mwyaf enwog yw Gorsaf San Pancras yn Llundain. Yn ystod ei yrfa yr oedd yn gyfrifol am adeiladu neu adnewyddu oddeutu 730 o adeiladau.
Roedd penseiri’r oes Fictoria yn hoff iawn o fenthyg arddulliau o gyfnodau cynt ac ar dop y rhestr oedd yr arddull Gothig. Byddai Scott yn gwthio’r ffiniau ymhellach gan gyflwyno arddulliau eraill o Ewrop ar ben yr arddull Gothig i geisio creu arddull gwbl newydd – mae hyn i’w weld yn glir yng Ngwesty’r Midland yng ngorsaf dren St Pancras yn Llundain.
Gwr arall sydd yn cael sylw yn y rhaglen yma yw Capability Brown fu’n gyfrifol am gynllunio’r gerddi ym Mhlas Dinefwr. Efallai bod yr enw rhyfedd yn canu cloch ond pwy oedd Capability Brown?
Roedd Lancelot “ Capability” Brown yn bensaer tirlun enwog fu’n gweithio trwy Brydain ar fwy na 170 o barcdiroedd a gerddi yn y ddeunawfed ganrif ac fe oroesir llawer ohonynt hyd heddiw. Fe gafodd ei enw rhyfedd oherwydd y byddai’n dweud wrth ei gleientau fod ei erddi yn “abl” at gael eu gwella - “their estates had great capability for landscape improvement” - ac felly fe enwid ef yn “Capability”.
Yn yr ail ganrif ar bymtheg gerddi ffurfiol tu hwnt oedd ffasiwn y cyfnod. Roedd gwrthdaro i’r cysyniad yma yn y ddeunawfed ganrif wrth i erddi geisio ymdebygu i olygfa naturiol. Brown oedd ar flaen y gad y diwygiad yma ond er oedd ei gynlluniau yn ymddangos yn naturiol roeddynt yn gywrain yn ol ei ramadeg arbennig ef – ymdebygai clwstwr o goed neu tro mewn afon i gollnod neu colon gan ychwanegu atalnod llawn ond pan fyddai’r gwaith ar ei ben.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales