Neidio at y cynnwys

S4C


Banc yr Eidion Du

[ VIDEO ]

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â hanes y porthmyn oedd yn gyrru eu gwartheg o Orllewin Cymru i’r marchnadoedd yn Llundain. Ond ychydig ohonon ni sydd wedi meddwl lle roedden nhw’n rhoi eu harian i gadw ar y ffordd adref – wel ym Manc yr Eidon Du.

David Jones, a oedd yn borthmon ei hunan, a sefydlodd Fanc yr Eidion Du yn 1799. Roedd e’n argraffu ei bapurau banc ei hun, ac roedd ganddo fe gangen yn Nhŷ’r Banc erbyn 1842. Roedd enw’r banc yn fwriadol – roedd e eisiau ennill ffafr y porthmyn a’u harian.

Erbyn 1887 roedd y banc wedi cael ei symud allan o’r tŷ Sioraidd, ac i mewn i adeilad newydd drws nesaf oedd yn debyg i fwthyn bach to gwellt cyffredin. Hyd yn oed ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yna lawer o doeau gwellt yn Llandeilo.

Cafodd y Nags Head drws nesaf ei ailfodelu fel ei fod e’n gyfleus i’r rheini oedd yn gwneud eu busnes yn y banc . Y pensaer oedd Calder o Lundain, a byddai’r drysau haearn wedi bod yn symbol o ddiogelwch y banc fel lle i gadw eich arian.

Mae’r neuadd fancio yn wreiddiol fwy neu lai, ac yn addas ddigon mae’n gartref bellach i gwmni sy’n cynnig cyngor ariannol.

Mae’r hen gelloedd yn dal i fodoli i lawr y grisiau.

Yn y prif dŷ, y banc gwreiddiol, ychydig o dystiolaeth sydd ar ôl i ddangos mai banc fu yma – ond dyna fe, mae’n debyg mai ychydig o dystiolaeth oedd yma i oroesi – byddai’r banciau cynnar wedi bod yn union fel swyddfeydd.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales