Rhagor o adeiladau o ddiddordeb yn Llandeilo
Y Cawdor
Tafarn o ddyddiau’r goets fawr oedd hon ac roedd y ffenestri bae a gafodd eu hychwanegu yn y mil wyth pedwar degau yn caniatáu i’r gwesteion weld pwy oedd yn mynd ac yn dod. Byddai gweithwyr fferm yn sefyll mewn rhes yn erbyn y wal allanol i chwilio am waith am y flwyddyn.
Yr Hen Ysgol Genedlaethol
Cyn i gynghorau lleol gael y cyfrifoldeb o redeg ysgolion yn y 1870au roedd y cyfrifoldeb yn disgyn i’r Eglwys ac mewn rhai achosion i Gapeli i gynnal ysgolion cynradd.
Roedd Eglwys Loegr yn rhedeg rhwydwaith o dros bum mil o ysgolion a elwid yn Ysgolion Cenedlaethol.
Eglwys Sant Teilo
Roedd Sant Teilo yn un o ffigurau crefyddol mwyaf dylanwadol ei oes, a phetai hanes wedi dilyn trywydd gwahanol mae’n eitha posib mai fe fyddai ein nawdd sant. Mae ‘na tua 45 o fannau addoli wedi’u cysegru iddo fe ar draws y byd Celtaidd ac efallai iddo gael ei gladdu yn yr Eglwys yma yn y chweched ganrif.
The Old King's Head
Mae Stryd y Bont yn arwain i fyny at y dref o’r bont ac arni mae na res o dai hardd amryliw. Ar ben y bryn mae’r Old King’s Head, adeilad plaen o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ond sydd yn deillio o’r dyddiau cynt. Tu fewn i’r adeilad mae na le tan o’r 1730au a gymerwyd o Lwynybrain, Llanymddyfri. Wrth i’r enw awgrymu hen dy tafarn oedd hwn ond erbyn hyn dyma bencadlys de-orllewinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Pont Llandeilo
Cynlluniwyd y bont gan William Williams, syrfëwr y sir, yn y mil wyth pedwar degau.
Mae gan y bont un bwa trawiadol – tua phedair troedfedd a deugain. Hon felly yw’r bont gerrig un bwa fwyaf yng Nghymru.
Y Farchnad
Cyn i’r adeilad yma gael ei adeiladu gan AJ Gulston o ystad Derwydd yn 1838 yr oedd cynnyrch lleol yn cael ei werthu ar hyd a lled y dre. Yr oedd yr adeilad yn gwasanaethu masnachwyr a phrynwyr o ddalgylch eang iawn yn enwedig ar ol i ddatblygiad y rheilffyrdd ganiatau gwell gysylltiadau i ardaleodd eraill.
Neuadd y Sir
Adeiladwyd Neuadd y Sir ym 1802 gan Thomas Humphreys o Gaerfyrddin fel neuadd ar gyfer llys chwarter dros marchnad agored.
Gwnaed llawer o addasiadau i’r adeilad gan nifer o Syrfewyr sir nes hyd heddiw dim ond dau golofn o’r cynllun gwreiddiol sydd yn weddill.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales