Neidio at y cynnwys

S4C


Y gyflwynwraig Elinor Jones yn hel atgofion am Landeilo

Er mai byw i’r gogledd o Landeilo ydwyf yn Nyffryn Tywi – heb os dyma yw fy nhref lleol i. Rwyf wedi byw yng nghyffuniau Llandeilo ers i mi fod yn 9 mlwydd oed. Yma y bues i i’r ysgol a lle dwi’n siopa ac yn cymdeithasu bellach.

[ ]

Fy hoff olygfa, am amryw o resymau, yw’r olgfa o barc Penlan i lawr y dyffryn ac i fyny i fryniau Llanwrda. Mae modd gweld am filltiroedd ar ddiwrnod braf o hâf. Yma byswn yn cwrdd am ffrindiau o’r ysgol i gymdeithasu ers lawer dydd.

Rwy’n cofio mynd bob bore dydd Sadwrn i brynu bwyd at yr hen farchnad a dwi’n gresynnu’r ffaith fod yr adeilad yno wedi bod yn wag ers blynyddoedd bellach. Hoffwn weld yr hen farchnad yn cael ei adnewyddu a’i agor unwaith eto fel adnodd i’r gymuned.

Rwy’n parhau i siopa yn lleol ac yn frwd iawn dros cefnogi’r siopau bach. Rwy methu a deall pam fod pobl yn defnyddio llond tanc o betrol i fynd i archfarchnad pan fo nwyddau gwych a digonol ar eu stepen drws.

Er fod na nifer o siopau nwyddau ‘pert’ i’w cael yn Llandeilo bellach mae na hefyd ddigonedd o siopau pwrpasol fel cigydd, siop llysiau ac mae hyd yn oed y siop flodau yn cynnig nwyddau organig.

Lle bo modd mae na bwyslais ar gyflenwi cynnyrch lleol: y cig; y caws a bellach y llysiau, a dwi o’r farn yn yr hinsawdd economaidd sydd ohonni, mai dychwelyd i brynu’n lleol nwyddau lleol y byddwn i.

Er fod y siopau wedi newid dwylo dros y blynyddoedd mae cymeriad Llandeilo yn parhau – fel tae cymeriad y dref yn gryfach na deiliad y siopau, ac rwy’n gobeithio y bydd y bywiocrwydd yma yn goroesi.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales