Neidio at y cynnwys

S4C


Cyflwyniad i Landeilo gan Greg Stevenson

[ VIDEO ]

Mae stori Llandeilo yn dechrau yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Gyda’i dir ffrwythlon, ac aur yn y bryniau o gwmpas Dolaucothi, dyw hi ddim syndod bod y Rhufeiniaid wedi eisiau rheoli’r dyffryn yma.

Dinefwr oedd sedd Tywysogion y Deheubarth, ac felly mae hynt a helynt Dinefwr wedi effeithio ar dref Llandeilo ers amser maith. Mae’r castell yn gastell Cymreig pwysig, wedi’i adeiladu gan Rhys Grug, Rhys Mewchyll a Rhys Fychan nes ildio i Edward y Cyntaf yn 1277.

Rydyn ni’n gwybod, erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn dilyn goresgyniad y Normaniaid, bod tua 30 o leiniau bwrgais yn y ‘villa de Lanteilo’.

Ond tref fach fuodd Llandeilo tan gyfnod Fictoria. Gwerthodd y boneddigion dir o amgylch y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a symudodd ffermwyr i mewn i’r dref i fod yn wŷr busnes.

Un o broblemau Llandeilo erioed fu’r mynediad i fyny’r rhiw serth o’r bont, ac o amgylch y fynwent. Ond yn 1815 adeiladwyd ffordd reit trwy ganol y Fynwent, a chafodd y ffordd honno ei lledu a’i gwella ymhellach pan gafodd pont well ei hadeiladu ym mhedwar degau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r Llandeilo welwn ni heddiw yn un sydd wedi’i llunio o’i hoes aur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel prif dref farchnad Dyffryn Tywi. Unwaith daeth y rheilffordd roedd masnachwyr a chwsmeriaid o ddalgylch enfawr yn dod yma.

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yna 73 o siopau, 23 o dafarnau a 290 o gartrefi yn y dref.

Mae’n rhaid bod y dref yn edrych yn hollol wahanol ar ddiwrnod marchnad pan oedd y strydoedd yn llawn o dda byw a stondinau. Roedd ŷd a chaws yn cael eu gwerthu ar lawr Neuadd y Sir, menyn a chynnyrch fferm yn y Farchnad Fwydydd a gwlanen Gymreig ar stondinau ar Stryd y Brenin. Roedd yna stondinau pysgod o dan y gastanwydden ar sgwâr yr Eglwys, ac ar draws y ffordd roedd y lladd-dai lle roedd y gwartheg yn cael eu lladd. Roedd gwartheg yn cael eu gwerthu ar Stryd yr Eglwys a Stryd y Bont, moch ar Stryd y Brenin a Stryd y Farchnad a cheffylau ar Stryd Caerfyrddin.

Heb os masnach sydd wedi creu Llandeilo, ac er nad yw’r strydoedd ddim yn llawn o wartheg a moch ar werth heddiw, mae yna ddewis da o siopau annibynnol yma o hyd.

A dweud y gwir mae Llandeilo yn eitha smart erbyn hyn – alla i ddim â meddwl am unrhyw dref arall cyn lleied â hon sydd â thri delicatessen! O leiaf mae hi’n dal i fod yn ganolfan ar gyfer cynnyrch o safon!

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales